Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

View the meeting transcript.

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, ac roedd Rhodri Glyn Thomas AC yn dirprwyo ar ei rhan.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.2

P-04-580 Cyfyngiadau ar Roi Gwaed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gofyn am eu barn ar y ddeiseb; a
  • gofyn am bapur briffio ymchwil ffeithiol byr ar y mater y tu ôl i’r ddeiseb.

 

 

2.3

P-04-581 Gwrthwynebu’r toriadau yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a

·         Chyngor Sir Abertawe 

 

i geisio eu barn am y ddeiseb.

 

2.4

P-04-582 Newid Mawr ei Angen i’r Rheolau yn ein Hysgolion o ran Llau Pen a Nedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eu barn am y ddeiseb.

 

2.5

P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.6

P-04-584 Bil Cynllunio Cymru i Ddiogelu Meysydd Tref a Phentref yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.7

P-04-585 Newidiadau i gyffordd yr A494/A470 yn Nolgellau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb ac am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol o ran diogelwch ffyrdd ar ôl cyfnod yr haf.

 

 

2.8

P-04-586 Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.9

P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.10

P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Tadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.11

P-04-589 Lleihau Nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.12

P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a

·         Chyngor Sir Ceredigion

 

i geisio eu barn am y ddeiseb.

 

2.13

P-04-591 Cyllid Teg ar gyfer Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.14

P-04-592 Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.15

P-04-593 Rhoi cyngor i ysgolion ar ymweliadau â Noah’s Ark Zoo Farm

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb a’r gohebiaeth a gafwyd gan Noah’s Ark Zoo Farm a’r deisebydd.

 

 

2.16

P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb.

 

2.17

P-04-595 Llwybr Foresight

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.18

P-04-596 Achub Gorsaf Dân y Porth – MAE’R EILIADAU’N CYFRIF!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.19

P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi;  
  • y Llywydd, yn ei rôl fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad;
  • Comisiynydd Plant Cymru, a
  • Plant yng Nghymru

 

i geisio eu barn am y ddeiseb.

 

 

2.20

P-04-598 Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i ofyn ei farn am sylwadau pellach y ddeiseb.

 

2.21

P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn am ei barn am y ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-549 Gwnewch ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn anthem genedlaethol swyddogol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am farn y deisebydd ar ohebiaeth y Prif Weinidog; a 

·         gwneud penderfyniad ynghylch cau'r ddeiseb.  

 

3.2

P-04-319 Deiseb ynghylch Traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ddiolch i’r Gweinidog am ei hymateb a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf;

·         aros am unrhyw sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd.

 

3.3

P-04-555 Rhwystrwch y cynlluniau anfoesol a llym arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

  • ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd yn gofyn am eu barn am y ddeiseb; ac
  • anfon copi o ddatganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd dyddiedig 22 Medi, ar y pwnc ‘Lles Anifeiliaid – Cŵn’ at y deisebydd, er gwyboaeth.

 

 

 

3.4

P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd.

 

3.5

P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd.

 

 

3.6

P-04-574 Gwasanaethau Bws ym Mhorth Tywyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am ei farn ar yr ohebiaeth.

 

3.7

P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • Geisio cael cadarnhad o statws perchnogaeth yr adeilad;
  • aros am sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd; a
  • pharhau â’r bwriad i ymweld â’r adeilad.

 

 

3.8

P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o’i bersbectif a gofyn am ei farn ar lythyr y deisebydd a’r cynigion gan y grŵp gweithredu lleol.

 

3.9

P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd.

 

3.10

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y mater.  

 

3.11

P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am sylwadau’r Gweinidog ar gais y deisebydd i ofyn am ymchwiliad cyhoeddus; a

·         thynnu’r deiseb at sylw’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau i edrych ar y mater. 

 

3.12

P-04-571 Trin Anemia Niweidiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • aros am ymateb gan y Gweinidog; a
  • gofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd ar y llythyr a dderbyniwyd eisoes gan y Gweinidog. 

 

 

3.13

P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau’r deisebydd.  

 

3.14

P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy’n addas at y diben

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd. 

 

3.15

P-04-543 Dim cynnydd mewn ffioedd dysgu prifysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb gan nad oes llawer o obaith o gael deialog bellach gyda’r deisebwyr. 

 

3.16

P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd.   

 

3.17

P-04-567 Chwarae Teg i Fyfyrwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         gyfleu sylwadau pellach y deisebydd i’r Gweinidog; ond

·         gan fod y Gweinidog yn awgrymu’n glir bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried y mater hwn o'r blaen ac nad yw’n barod i newid ei safbwynt, cau’r ddeiseb.

 

 

3.18

P-04-569 Rhowch y Gorau i Gynnal y Profion Cenedlaethol ar gyfer Plant Ysgolion Cynradd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd.   

 

 

 

3.19

P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar sylwadau’r deisebydd.

 

3.20

P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am eglurhad gan y deisebwr ynghylch a ydynt yn dymuno parhau i ddilyn y mater, o ystyried naws gadarnhaol eu gohebiaeth ddiweddar; ac

·         yn dibynnu ar ymateb y deisebydd, cyflawni ‘darn o waith’ ar y ddeiseb. 

 

3.21

P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd.   

 

3.22

P-04-550 Pwerau Cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd.   

 

3.23

P-04-557 Y Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         anfon sylwadau pellach y deisebydd at y Gweinidog Cymunedau a Threchi Tlodi, er gwybodaeth; a

·         chau’r ddeiseb yng ngoleuni barn y cyn Weinidog a’i bod yn ymddangos bod y materion sy’n destun pryder y deisebydd wedi cael eu hystyried gan yr Ombwdsmon.

 

3.24

P-04-563 Y ddarpariaeth o wasanaethau yng ngorsaf dân Pontypridd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau gan y prif ddeisebydd.

 

3.25

P-04-577 Adfer Cyllid i’r Prosiect Cyfleoedd Gwirioneddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar y cynnig amlinellol a gyflwynwyd gan y deisebwyr.