Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: |
|
Trawsgrifiad |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-567 Chwarae Teg i Fyfyrwyr Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb;
a ·
gofyn a oedd unrhyw ddeisebau blaenorol wedi arwain at faterion tebyg er mwyn
adolygu'r camau a gymerwyd. |
|
P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyflwyno
adroddiad ar y ddeiseb i'r Cynulliad â'r bwriad o gynnal trafodaeth ar y mater
yn y Cyfarfod Llawn. |
|
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r
Gweinidog a yw'n fodlon cyfarfod â'r deisebydd, yn unol â chais y deisebydd. |
|
P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
ystyried cyflawni darn o waith ar y ddeiseb fel rhan o flaenraglen waith y
Pwyllgor Deisebau; ac
|
|
P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
cau'r ddeiseb gan y teimlwyd na ellid gwneud fawr ddim yn rhagor, yn
gyffredinol nac yn benodol, o ran bwrw ymlaen â'r ddeiseb; ond wrth wneud hynny
·
anfon manylion y ddeiseb at Darren Millar AC a Chadeirydd y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan eu bod yn trafod y Bil Safleoedd
Carafannau Gwyliau (Cymru). |
|
P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
aros am ymateb gan Cymorth i Fenywod; a ·
Rhoi gwybod i'r deisebydd am drefniadau i graffu ar y Bil Trais ar Sail
Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 1, a'i wahodd
i gyfrannu at y broses honno. |
|
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am
farn y Gweinidog a'r deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas
Adareg Cymru. |
|
P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am
ymateb gan Hitachi ynglŷn â'i waith i ddatblygu technoleg glo glân. |
|
P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
drafod deisebau P-04-408 a P-04-505 ar wahân yn y dyfodol; ac ·
thynnu sylw'r deisebydd at Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed; a ·
anfon manylion am y ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg. |
|
P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
drafod deisebau P-04-408 a P-04-505 ar wahân yn y dyfodol; ac ·
ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am wybodaeth am ei hymgyrch ddiweddar. |
|
P-04-456 Dementia – Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gadw
golwg ar y mater. |
|
P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog pa gamau yr oedd wedi eu cymryd yn benodol i ymgynghori
â chleifion HIV ynghylch y canllawiau; a ·
gofyn am farn grwpiau o gleifion HIV ynghylch y mater. |
|
P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebwyr; a ·
thrafod a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach yn sgil yr ymateb. |
|
P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebydd; ac ·
ysgrifennu at yr Athro Graham Donaldson gan rannu'r papur ymchwil a gofyn
a fyddai'n barod i gyfarfod â'r deisebydd er mwyn cael trafodaeth fanylach
ynglŷn â phwnc y ddeiseb. |
|
P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn
eto i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau yn sgîl yr ymatebion a ddaeth i
law hyd yma. |
|
P-04-542 Cyfleoedd Ymarferol i Bobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r
deisebydd a yw'n fodlon ar ymateb y Dirprwy Weinidog. |
|
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor bapur ymchwil ar ddeisebau P-04-475, 513 a 515 a
chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
gan ofyn iddi ymateb i nifer o gwestiynau, a fydd yn helpu gyda'r gwaith y
mae'r Pwyllgor yn ei wneud. |
|
P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y pwynt gweithredu o dan eitem 3.16 ar yr agenda. |
|
P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y pwynt gweithredu o dan eitem 3.16 ar yr agenda. |