Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(9.00 - 9.10)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Trafodaeth breifat ynghylch materion sy’n deillio o ddeiseb

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cynnig a bu’r Aelodau’n ystyried materion yn codi o ddeiseb, yn breifat.

 

(9.10 - 9.20)

3.

P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 29 Ebrill a chytunwyd i baratoi adroddiad ar y ddeiseb fel y gall y Cynulliad drafod y materion a godwyd yn llawnach yn y Cyfarfod Llawn.

 

4.1

P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·                         Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg eto i ofyn am ymateb i ohebiaeth gynharach; ac

·                         at y Gweinidog i ofyn am ei farn ynglŷn â sylwadau pellach y deisebydd ac i dynnu ei sylw at fethiant Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i ymateb i ohebiaeth.

 

4.2

P-04-527 Ymgyrch i gael Cronfa Cyffuriau Canser Arbennig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ynglŷn â’i brosesau ar gyfer gwerthuso cyffuriau canser o’r math y mae’r ddeiseb yn pryderu ynglŷn â hwy;

·         gofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd a holi a yw datganiad ysgrifenedig y Gweinidog yn bodloni unrhyw rai o’i bryderon; a 

·         gofyn am ymateb gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gan nad yw wedi ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor eto.

 

4.3

P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog ym mis Mehefin ar ôl i’r Grŵp Gweithredu Metro gyhoeddi’i gynigion mewn perthynas â Metro De-ddwyrain Cymru.

 

4.4

P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i’r rhai sy’n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb gan nad yw’n debygol y bydd unrhyw newid ym mholisi’r Llywodraeth.

 

4.5

P-04-510 Ymchwiliad Cyhoeddus i achos Breckman yn Sir Gaerfyrddin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth gyfreithiol ynglŷn â’r ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

(9.40 - 10.00)

5.

Deisebau newydd

5.1

P-04-550 Pwerau Cynllunio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn ei farn am y ddeiseb, yn enwedig mewn perthynas ag a fydd y Bil Cynllunio arfaethedig yn cynnwys unrhyw gynigion i fynd i’r afael â’r mater sy’n pryderu’r deisebwyr; ac

·         anfon copi o’r llythyr at y Gweinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Vaughan Gething.

 

 

 

5.2

P-04-551 Dysgu Cymorth Cyntaf Sylfaenol Mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb, gan gofio’r ystyriaeth a roddwyd i ddeiseb flaenorol a drafodwyd gan y Pwyllgor ynglŷn â mater tebyg.

 

5.3

P-04-552 Diogelu Plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

5.4

P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac

·         OFcom

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb ac, yn achos OFCOM, i weld a oeddent yn ymwybodol o unrhyw waith ymchwil diweddar i’r mater hwn.

 

 

5.5

P-04-554 Polisi swyddogol gan Lywodraeth Cymru sy’n gwahardd sefydliadau hyfforddi nad ydynt yn dryloyw rhag gweithio mewn cyrff cyhoeddus.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am eglurhad pellach ynghylch unrhyw bryderon penodol sy’n gefndir i’r ddeiseb. 

 

5.6

P-04-555 Rhwystrwch y cynlluniau anfoesol a llym arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am eglurhad pellach ynghylch unrhyw bryderon penodol sy’n gefndir i’r ddeiseb.   

 

5.7

P-04-556 Na i gau Cyffordd 41

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

ysgrifennu at:

 

  • Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ofyn ei barn am y ddeiseb ac i ofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â pham bod y gyffordd arbennig hon wedi’i nodi ar gyfer ei chau o bosibl; a
  • Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ofyn eu barn am y mater.

 

 

(10.00 - 10.15)

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

6.1

P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

6.2

P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a nodwyd fod Coed Cadw bellach yn aelod o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a chytunwyd i aros i’r Gweinidog roi gwybod i’r Pwyllgor am ganfyddiadau’r Grŵp.

 

6.3

P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac o ystyried llwyth gwaith y Pwyllgor ac ymrwymiadau eraill yr Aelodau, cytunwyd i wrthod y gwahoddiad. Wrth wneud hynny, penderfynwyd rhoi’r gwahoddiad i’r Gweinidog a gofyn iddo ef neu ei swyddogion ystyried y gwahoddiad fel rhan o’u hadolygiad o’r ddeddfwriaeth yn y maes hwn.

 

6.4

P-04-458 Cadwch Addysg Bellach yn y Sector Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at ColegauCymru i ofyn am wybodaeth ynghylch pa goleg oedd heb ymrwymo eto i’r contract Cymru Gyfan ar gyfer darlithwyr Addysg Bellach.

 

6.5

P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y Gweinidog yn wyneb ymateb y deisebydd.

 

6.6

P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ganiatau rhagor o amser i’r deisebwyr baratoi ymateb manylach i lythyr y Gweinidog, yn ôl eu cais.

 

6.7

P-04-534 Ymgyrch i ddiogelu YSBYTY ABERTEIFI

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y deisebwyr ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.

 

6.8

P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am ymateb brys gan Gyngor Dinas Caerdydd i gais y Pwyllgor am wybodaeth ac am ymweliad â’r adeilad.

 

(10.15 - 10.45)

7.

Sesiwn Dystiolaeth - Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru

Daniel Thomas, Petitioner for Increase Funding for Welsh Bus Services

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r tyst yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

7.1

P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd

Dogfennau ategol:

7.2

P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo

Dogfennau ategol:

7.3

P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru

Dogfennau ategol: