Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

(9.00 - 9.10)

2.

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Adolygodd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 18 Chwefror a chytunodd i:

1.   wahodd Arolygiaeth Gynllunio Cymru i roi tystiolaeth ar y materion a godwyd yn y ddeiseb a'r cysondeb o ran dulliau pawb sydd ynghlwm wrth y broses;

2.   ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn ei farn am sylwadau pellach y deisebydd; ac

3.   ysgrifennu at CLlLC i ofyn ei farn am sut y caiff y broses ei rheoli ym mhob awdurdod lleol.

 

(9.10 - 9.30)

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy’n addas at y diben

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

1.   ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn am y ddeiseb ynghyd â rhagor o wybodaeth am y broses gyfatebol ar gyfer y fframwaith arolygu addysg bellach;

2.   ysgrifennu at Estyn yn gofyn am ragor o wybodaeth am aelodau'r grŵp cynghori a'r sail resymegol y tu ôl iddo.

 

3.2

P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

  1. y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn ei farn ac am eglurhad ynghylch y defnydd o bwerau o dan adran 78 a nododd y deisebydd;
  2. Cadw, yn gofyn am eglurhad ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb o safbwynt Cadw, gan gynnwys sut mae'n sicrhau y glynir at y mesurau i amddiffyn adeiladau o'r math hwn;
  3. Prif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, yn gofyn:

Ø  eu barn am y materion a godwyd gan y ddeiseb;

Ø  am ragor o wybodaeth ynghylch eu cynlluniau ar gyfer adeilad y Gyfnewidfa Glo a'r rhesymau tu ôl i'r penderfyniad; ac

Ø  a all y Pwyllgor ymweld â'r adeilad.

 

 

 

3.3

P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

1.   y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i ofyn ei barn am y ddeiseb ac i ofyn a fydd y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig yn mynd i'r afael a'r materion a godwyd;

2.   Cymorth i Fenywod Cymru am ei farn ar yr ystadegau a ddarparwyd gan y deisebydd.

 

 

(09.30 - 11.00)

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr yn diolch iddynt am gyflwyno'r ddeiseb a chau'r ddeiseb.

 

4.2

P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog, ac yn absenoldeb ymateb gan y deisebwyr, cytunodd i chwilio am gyswllt arall yn Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd i geisio ail-gysylltu.

 

4.3

P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gofyn ei barn am sylwadau'r deisebydd yn gyffredinol ac yn benodol am bwynt 8.

 

4.4

P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy yr A483

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr yn gofyn am eu hymateb i lythyr y Gweinidog.

 

4.5

P-04-525 Ariannu Gwobrau CREST yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a chytunodd i ysgrifennu at:

 

1.   y deisebwyr i ofyn eu barn am lythyr y Gweinidog ac i ofyn am ragor o wybodaeth am eu cynlluniau mewn perthynas â chyflwyno eu hachos busnes i Lywodraeth Cymru am gyllid;

2.   y Gweinidog yn gofyn iddi hysbysu'r Pwyllgor am ganlyniad y cais am gyllid, ar ôl i'r Llywodraeth gael yr achos busnes.

 

4.6

P-04-531 Ailenwi Maes Awyr Caerdydd ar ôl Eicon o Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ac am ei bod yn dweud yn glir nad oes cynlluniau i newid enw Maes Awyr Caerdydd, cytunodd i gau'r ddeiseb.

 

4.7

P-04-422 Ffracio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd, a oedd yn cynnwys llythyr ato gan y Prif Weinidog, a chytunodd i ysgrifennu at:

 

1.   y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd ac yn benodol y ceisiadau gan randdeiliaid am ganllawiau ychwanegol;

2.   y Prif Weinidog, yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch ei farn ymddangosiadol bod y strwythurau rheoleiddio presennol yn briodol, yn enwedig o ystyried barn rhanddeiliaid, sy'n awgrymu i'r gwrthwyneb;

3.   y deisebydd, yn gofyn am ragor o wybodaeth am y llefarydd diwydiant a soniwyd amdano yn yr ohebiaeth; a

4.   Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gofyn ei farn.

 

 

4.8

P-04-500 Galw am Reoleiddio Sefydliadau Lles Anifeiliaid yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

1.   ysgrifennu'n gyfrinachol at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn gofyn ei farn am wybodaeth ychwanegol y deisebydd ac yn gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor am ganlyniad ei ystyriaeth o'r argymhellion yn deillio o adroddiad Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru; a

2.   gofyn am ragor o gyngor ac, os oes angen, camau gweithredu o ran rhoi gwybod i'r awdurdodau rheoleiddio perthnasol ynghylch materion lles anifeiliaid posibl.

 

 

4.9

P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn diffyg ymateb gan y deisebydd i lythyr gan y Bwrdd Iechyd Lleol, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

 

4.10

P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

1.   ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gofyn am ragor o fanylion o ran yr amserlen ar gyfer darparu gwybodaeth wedi'i theilwra; a

2.   gan ystyried bod cryn dipyn o amser ers cyflwyno'r ddeiseb, gofyn am bapur briffio byr gan y gwasanaeth ymchwil, yn dod â'r holl wybodaeth at ei gilydd.

 

4.11

P-04-530 Labelu Dwyieithog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am ei ymateb i sylwadau'r Gweinidog.

 

4.12

P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Oherwydd diffyg ymateb gan y deisebwyr, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a thrwy hynny, roi gwybod i Grŵp Trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol.

 

4.13

P-04-478 Pecyn gwybodaeth syml i bawb yng Nghymru yn esbonio sut y gallant sefyll fel ymgeisydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 

4.14

P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog eto, yn gofyn ei farn am ohebiaeth ychwanegol y deisebydd.

 

4.15

P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghyd â'r wybodaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

1.   yr Awdurdod Tân ac Achub yn gofyn ei farn am y ddeiseb a'r risgiau sydd wedi'u nodi;

2.   y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, oherwydd ei chyfrifoldeb dros ddiogelwch tân yn y gymuned; a'r

3.   cyrff ymbarél perthnasol yn y diwydiant carafanau yn gofyn eu barn am y materion sy'n cael eu codi yn y ddeiseb.

 

4.16

P-04-529 Ombwdsmon Asiantaethau Gosod Tai ar gyfer Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai ac Adfywio ynghyd â'r sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:

 

1.   grwpio'r ddeiseb gyda P-04-480 Mynd i'r afael â Safon Tai Myfyrwyr yn y Sector Preifat yn ôl cais y deisebydd; a

2.   gohirio trafod y ddeiseb, am fod y Gweinidog wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu gorfodol ar gyfer landlordiaid yn y sector rhentu preifat ac asiantau gosod a rheoli fel rhan o'r Bil Tai.

 

4.17

P-04-518 Ciniawau ysgol am ddim yn gyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am ei ymateb i sylwadau'r Gweinidog.