Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Gogledd Cymru - Ysgol Uwchradd Prestatyn

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson.

 

(9.45 - 9.55)

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-510 Ymchwiliad Cyhoeddus i achos Breckman yn Sir Gaerfyrddin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth gan ofyn am ei barn;

·         yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i holi a yw'n fodlon â'r camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol; a'r

·         yr awdurdod lleol gan ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.2

P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb.

 

2.3

P-04-512 Rhoi terfyn ar y "Cynigion i gwtogi staff" ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan ofyn am ei farn;
  • Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gofyn am eglurhad ynghylch nifer o bwyntiau, gan gynnwys is-raddio swyddi a pha ffactorau a wnaeth y bwrdd iechyd lleol eu hystyried wrth wneud ei benderfyniadau; a'r
  • Undebau Llafur, gan ofyn iddynt nodi eu pryderon.

 

 

2.4

P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; 

·         ysgrifennu at Arriva a'r consortia trafnidiaeth rhanbarthol, gan ofyn am eu barn am y ddeiseb; ac i

·         ofyn am bapur ymchwil sy'n clymu'r materion amrywiol ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ac integredig ynghyd.

 

 

(9.55 - 10.15)

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty

Dogfennau ategol:

3.2

P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

3.3

P-04-430 Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod

Dogfennau ategol:

3.4

P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

Dogfennau ategol:

3.5

P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn holi am ragor o fanylion am bwrpas y panel craffu arbenigol; 

·         tynnu sylw'r Gweinidog at yr ohebiaeth bellach gan y deisebwyr a gofyn i’r panel ei hystyried;

·         aros am benderfyniad y Gweinidog yn sgîl y cyngor mae'n ei gael gan y panel; a

·         cheisio ymateb gan fwrdd iechyd Hywel Dda, gan roi copi o'r cais i'r Gweinidog a mynegi pryder am yr amser a gymerwyd i ymateb i ohebiaeth y Pwyllgor.

 

 

3.6

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·                     ofyn i'r deisebwyr a ydynt yn fodlon ag

ymateb y Gweinidog;

·                     ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo adolygu'r sefyllfa ar ôl 12 mis ac am ddadl Cyfarfod Llawn ar y mater yn sgîl unrhyw adolygiad; a

·                     gofyn i'r Gwasanaeth Ymchwil lunio papur ynghylch y sefyllfa unwaith y bydd y Gweinidog wedi cynnal adolygiad, gyda’r bwriad o lunio adroddiad Pwyllgor byr efallai i helpu i lywio unrhyw ddadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

 

 

3.7

P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·                     wahodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i roi tystiolaeth lafar am y pryderon a godwyd gan y deisebwr, ac i fynegi pryder ynghylch diffyg ymateb; ac

·                     ysgrifennu at y Gweinidog yn holi am amserlen yr adolygiad o afiechydon prin ac a fydd hynny'n effeithio ar y materion y mae'r ddeiseb yn ymdrin â nhw.

 

 

3.8

P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         aros am y wybodaeth ddiweddaraf gan y Dirprwy Weinidog am roi cynllun gweithredu Hywel Dda i fynd i'r afael a'r rhestr aros yn Sir Benfro ar waith; a 

·         dychwelyd i'r ddeiseb unwaith y daw'r wybodaeth honno gan y Dirprwy Weinidog i law, tua mis Chwefror flwyddyn nesaf.

 

 

 

 

3.9

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ysgrifennu at y grŵp trawsbleidiol er mwyn rhoi gwybod iddo am yr ohebiaeth ddiweddaraf; a

·         gofyn i'r deisebwr a yw'n fodlon â'r ohebiaeth a gafodd, a

·         gan ddibynnu ar ymateb y deisebwr, efallai bydd y Pwyllgor yn comisiynu darn byr o waith ar y ddeiseb.

 

3.10

P-04-488 Yr hawl i benderfynu: diwedd ar astudiaeth orfodol o’r Gymraeg hyd at lefel TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y ffaith y caiff sylwadau'r deisebwr eu hystyried fel rhan o'r adolygiad o ddarpariaeth Cymraeg ail iaith yng nghyfnodau allweddol 3 a 4.

 

3.11

P-04-498 Addysgu Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwr am ohebiaeth y Gweinidog.

 

3.12

P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y deisebwr am ohebiaeth y Gweinidog.

 

3.13

P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru:

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • gau'r ddeiseb yn sgîl y ffaith y cafwyd dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn, sydd wedi cyfrannu at drafodaeth gyhoeddus ehangach ynghylch y mater; a
  • chyfeirio'r adroddiad at y grŵp trawsbleidiol i'w ystyried.

 

 

3.14

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         aros i'r Gweinidog ddod gerbron y Pwyllgor ym mis Chwefror;

·         ysgrifennu at y Gweinidog i gael eglurhad ynghylch y mathau o gwestiynau na fydd yn gallu ymdrin â nhw tan fod penderfyniad ynghylch cais Varteg Hill; ac

·         ystyried gwahodd rhanddeiliaid i roi tystiolaeth yn y flwyddyn newydd.

 

Yn ogystal, gyda thristwch, fe nododd y Pwyllgor farwolaeth gwraig y prif ddeisebwr a chytuno y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Dr Cox i fynegi cydymdeimlad yr Aelodau.

 

 

(10.15 - 11.00)

4.

P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.

Mike Parry, Prif ddeisebydd

 

Cynghorydd Anwen Davies, Cyngor Gwynedd

 

Dr Delyth Davies (Rtd)

Dogfennau ategol:

(10.15 - 11.00)

5.

P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn

Brian Mintoft, Prif ddeisebydd

 

Diane Tucker, Deisebydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y canlynol gwestiynau'r pwyllgor: Mike Parry, Dr Delyth Davies, Brian Mintoft a Jennie Windsor.

 

11.02 - 11.30

6.

P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Mr Tom Pollock, Prif ddeisebydd

 

Dr Karen Pollock, Deisebydd

 

Cynghorydd Lewis Davies, Deisebydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd y canlynol gwestiynau'r pwyllgor: Tom Pollock, Dr Karen Pollock a Lewis Davies.

 

(11.30 - 11.45)

7.

P-04-496 Ysgolion Pob Oed

Dawn Docx, Prif ddeisebydd

 

Anna Gresty, St Brigid’s Action Group

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Dawn Docx ac Anna Gresty gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

(11.45 - 12.00)

8.

P-04-432 - Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a gasglwyd drwy siarad â grŵp o ddisgyblion yn anffurfiol. Cyfrannodd y canlynol at y drafodaeth: Alex Barons (un o'r staff), Daisy Major, Holly Hinson a Sebastian Collings (disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn).

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r disgyblion a'r staff y bu iddynt gwrdd â nhw yn Ysgol Uwchradd Prestatyn ac i'r ysgol am ei chroeso cynnes a'i chymorth.