Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Cyswllt: Naomi Stocks Deputy Clerk: Sarita Marshall
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
09:30 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Elin Jones i’r Pwyllgor a diolchodd i Bethan Jenkins am ei chyfraniad
i’r broses ddeisebu. Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
09.30 - 10.00 |
Deisebau newydd |
|
P-04-429 Ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Llywodraeth Leol a Chymunedau i holi a fu unrhyw newid yn y sefyllfa ers ei
ohebiaeth ddiwethaf â’r Pwyllgor ar y mater hwn. |
||
P-04-430 Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd
Hywel Dda i ofyn ei farn ar y ddeiseb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. |
||
P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn toriadau i wasanaethau iechyd Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd
Hywel Dda i ofyn ei farn ar y ddeiseb, gan anfon copi at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol. |
||
P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i: Ysgrifennu at y
Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn ei farn ar y ddeiseb; a Gwneud cais am
bapur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil ar y materion a gafodd eu codi yn y
ddeiseb. |
||
P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf. Nododd Joyce
Watson ei bod wedi llofnodi Datganiad Barn ar y mater hwn. Cytunodd y
Pwyllgor i ofyn am farn Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ar y
ddeiseb ac i ofyn pryd y byddai canfyddiadau’r ymgynghoriad ar weithredu
Rheoliadau’r UE ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd yn cael eu cyhoeddi. |
||
P-04-434 Mae’r Cymry a’r Somalïaid fel ei gilydd yn caru barddoniaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd i
ofyn ei barn ar y ddeiseb. |
||
P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Llywodraeth Leol a Chymunedau i ofyn ei farn ar y ddeiseb. |
||
10.00 - 10.30 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-404 Awyrennau Di-Beilot Aberporth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i
ofyn am eu barn ar yr ymateb gweinidogol.
|
||
P-04-421 Rhwystro Trident rhag dod i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y Prif
Weinidog i ofyn ei farn ar y cais penodol sydd wedi’i nodi yn y ddeiseb. |
||
P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: Chwilio am
dystiolaeth gytbwys ar y mater, gan gynnwys tystiolaeth gan yr heddlu; Cynnal
ymgynghoriad ar y mater; Mynd ar ymweliad
safle i loches anifeiliaid. |
||
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i
holi pa mor debygol ydyw y bydd y cais y soniodd amdano yn ei lythyr yn llwyddo. |
||
P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: O ganlyniad i
waith Llywodraeth Cymru a’r gwelliannau a wnaed yn dilyn rhoi’r Fframwaith
Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn ar waith, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-334 Uned arennol newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y penderfyniadau a wnaed yn dilyn
trafodaethau â Rhwydwaith Clinigol Arennol Cymru. |
||
P-04-408 Gwasanaeth i atal anhwylder bwyta ymysg plant a phobl ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at BEAT i ofyn ei
farn ar yr ymateb gweinidogol ac i holi a yw o’r farn bod gwasanaethau cymorth
ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anhwylder bwyta yn ddigonol yng Nghymru. |
||
P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ddrafftio adroddiad byr er
mwyn cynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y mater. |
||
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb. Nododd y
Cadeirydd, yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd sir, ei fod wedi trafod y mater
gyda’r ddwy ochr. Cytunodd y
Pwyllgor i ofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am y wybodaeth ddiweddaraf
am y sefyllfa, gan gynnwys a fyddai’n ystyried rhoi’r adeilad ar restr leol. |
||
10.30 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig.
|
|
10.30 - 10.45 |
P-04-341 Llosgi gwastraff - adroddiad drafft Cofnodion: Derbyniwyd yr
adroddiad drafft yn amodol ar amryw welliannau. |