Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(120 munud) |
Dadl ar y Gyllideb Ddrafft NDM4847 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty ar 4 Hydref
2011. Dogfennau Ategol Adroddiad
gan y Pwyllgor Cyllid – Craffu ar gynnig cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar
gyfer 2012-2013 Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Peter Black (Gorllewin De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gwrthod cefnogi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Hydref 2011 gan y Gweinidog Cyllid, ar y
sail nad yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â'r canlynol: a) y pwysau ariannol y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei wynebu; b) yr argyfwng economaidd sy’n gwaethygu; c) y pwysau ariannol y mae ysgolion yn ei wynebu er mwyn diwallu anghenion
plant difreintiedig; a d) y pwysau ariannol ar brosiectau cyfalaf. Yn
unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais
angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl. Penderfyniad: Yn unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd
y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais angenrheidiol yn digwydd ar ôl
y ddadl. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: William Graham (Dwyrain De Cymru) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Peter Black (Gorllewin De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gwrthod cefnogi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Hydref 2011 gan y Gweinidog Cyllid, ar y sail
nad yw’n mynd i’r afael yn ddigonol â'r canlynol: a) y pwysau ariannol y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei wynebu; b) yr argyfwng economaidd sy’n gwaethygu; c) y pwysau ariannol y mae ysgolion yn ei wynebu er mwyn diwallu anghenion
plant difreintiedig; a d) y pwysau
ariannol ar brosiectau cyfalaf. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig: NDM4847 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12: Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty ar 4 Hydref
2011.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar y Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy NDM4848 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod mai'r egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn
Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r sylfaen
o hyd ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng
Nghymru. 2. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni Gwasanaethau
Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, gan gynnwys y
trefniadau arwain newydd a roddwyd ar waith. Dogfen Ategol Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu ‘mai'r egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau
Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r sylfaen o hyd’ a
rhoi yn ei le ‘bod gan yr egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn
Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu y
potensial’. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ac atebol a bod hyn yn
hollbwysig er mwyn gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth gynigion Llywodraeth Cymru i dorri 5.9 y cant oddi ar
Gyllideb Refeniw Gwasanaethau Cymdeithasol mewn termau real rhwng 2011/12 a
2012/13. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r polisi i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Fframwaith hwn fel blaenoriaeth ar
gyfer gweithredu. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y bydd newidiadau demograffig yn y dyfodol yn rhoi rhagor o bwysau
ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin
cysylltiadau gweithio agosach rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol a
byrddau iechyd lleol. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r defnydd a wneir o gyllidebau
personol ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal er mwyn iddynt dderbyn rhaglen ofal
sy'n addas i angen personol. Yn
unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais
angenrheidiol yn digwydd ar ôl y ddadl. Penderfyniad: Yn unol â rheol Sefydlog 11.15 (i), penderfynodd y Llywodraeth y byddai unrhyw bleidlais
angenrheidiol yn digwydd ar ôl
y ddadl. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu ‘mai'r
egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol
Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r sylfaen o hyd’ a rhoi yn ei le
‘bod gan yr egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn Gwasanaethau
Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu y potensial’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi
pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol ac atebol a bod hyn yn hollbwysig er mwyn
gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth
gynigion Llywodraeth Cymru i dorri 5.9 y cant oddi ar Gyllideb Refeniw
Gwasanaethau Cymdeithasol mewn termau real rhwng 2011/12 a 2012/13. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r polisi i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Fframwaith hwn fel blaenoriaeth ar
gyfer gweithredu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi y bydd newidiadau demograffig yn y dyfodol yn rhoi rhagor o bwysau
ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin
cysylltiadau gweithio agosach rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol a
byrddau iechyd lleol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd
gwelliant 5. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r
defnydd a wneir o gyllidebau personol ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal er mwyn
iddynt dderbyn rhaglen ofal sy'n addas i angen personol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd
gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4848 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod mai'r egwyddorion a'r blaenoriaethau a bennwyd yn
Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yw'r
sylfaen o hyd ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol
yng Nghymru. 2. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran cyflawni Gwasanaethau
Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, gan gynnwys y
trefniadau arwain newydd a roddwyd ar waith. 3. Yn croesawu’r polisi i ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol
newydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Fframwaith hwn fel
blaenoriaeth ar gyfer gweithredu. 4. Yn nodi y bydd newidiadau demograffig yn y dyfodol yn rhoi rhagor o
bwysau ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i feithrin
cysylltiadau gweithio agosach rhwng adrannau gwasanaethau cymdeithasol a
byrddau iechyd lleol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |