Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gwnaeth y Llywydd ddatganiad am ymddygiad Aelodau
yn y Siambr a phwysleisiodd yr angen am urddas a threfn yn y cyfarfodydd, gan
gynnwys parchu awdurdod y Cadeirydd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.31 Gofynnwyd yr 11
cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 2 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.16 Gofynnwyd y 4
cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 muned) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw
gwestiynau. Penderfyniad: Ni chyflwynwyd unrhyw
gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ynghylch Deddfu yng Nghymru NDM5922 David Melding (Canol De Cymru) Mae Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Deddfu yng
Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Hydref 2015. Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2016. Gosodwyd ymateb Comisiwn
y Cynulliad i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2016. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.25 NDM5922 David Melding (Canol
De Cymru) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Deddfu yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Hydref 2015. Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi
canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg
Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy,
gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac
Undeb y Colegau a Phrifysgolion; 2. Yn cydnabod, fel y
nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried
y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a 3. Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu
polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi
costau byw. Adolygiad
annibynnol o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi adroddiad polisi
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2013, 'Fairness and Freedom in Higher
Education', sy'n galw am grant cymorth byw i fyfyrwyr, er mwyn symud ffocws
cymorth y llywodraeth o ryddhad o ddyledion ffioedd dysgu i gefnogaeth ar gyfer
costau byw, fel ffordd decach a mwy effeithiol o sicrhau nad yw cyllid yn
rhwystr i addysg uwch. Fairness
and Freedom in Higher Education (Saesneg yn unig) Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi adroddiad polisi
Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o
fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u
costau byw sylfaenol fel rhent neu biliau cyfleustodau. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ar ddiwedd pwynt 3,
mewnosoder: 'fel drwy gyflwyno grant
cymorth byw i fyfyrwyr.' Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn condemnio'r toriad
difrifol i gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-2017,
sy'n dod o ganlyniad uniongyrchol i bolisi ffioedd cyfredol Llywodraeth Cymru.
Yn credu bod hyn yn debygol o arwain at doriadau niweidiol mewn cymorth i
fyfyrwyr rhan-amser, ymchwil, pynciau cost uchel a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.10 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio: NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canfyddiadau'r
adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid
Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan
adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y
Colegau a Phrifysgolion; 2. Yn cydnabod, fel y nodwyd
yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y
polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a 3. Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu
polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi
costau byw.
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi adroddiad polisi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o
2013, 'Fairness and Freedom in Higher Education', sy'n galw am grant cymorth
byw i fyfyrwyr, er mwyn symud ffocws cymorth y llywodraeth o ryddhad o
ddyledion ffioedd dysgu i gefnogaeth ar gyfer costau byw, fel ffordd decach a
mwy effeithiol o sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i addysg uwch.Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi adroddiad polisi Undeb
Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o fyfyrwyr
yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw
sylfaenol fel rhent neu filiau cyfleustodau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ar ddiwedd pwynt 3,
mewnosoder: 'fel drwy gyflwyno grant
cymorth byw i fyfyrwyr.' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn condemnio'r toriad difrifol
i gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-2017, sy'n dod o ganlyniad
uniongyrchol i bolisi ffioedd cyfredol Llywodraeth Cymru. Yn credu bod hyn yn
debygol o arwain at doriadau niweidiol mewn cymorth i fyfyrwyr rhan-amser,
ymchwil, pynciau cost uchel a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canfyddiadau'r
adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid
Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan
adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y
Colegau a Phrifysgolion; 2. Yn nodi adroddiad polisi
Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o
fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u
costau byw sylfaenol fel rhent neu filiau cyfleustodau; 3. Yn cydnabod, fel y nodwyd
yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y
polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a 4. Yn credu y dylai
Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu
polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi
costau byw.
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cymunedau
ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn
talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r
cymunedau hynny; 2. Yn cydnabod
pwysigrwydd gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled
Cymru i ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd
wedi effeithio arnynt, gan gynnwys: a) archwilio hyfywedd
darparu rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt; b) adolygu sut y mae'r
Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut
y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd; c) darparu rhyddid
ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i
glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a d) asesu sut y gall y
rhaglen datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau
yr effeithir arnynt gan lifogydd. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad
llifogydd. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd
ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at
benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân,
sy'n bygwth ein gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o
amodau tywydd eithafol a llifogydd yn y dyfodol. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ar ddechrau is-bwynt
3c), mewnosoder: 'adolygu'r dystiolaeth
ar gyfer' Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt newydd
ar ddiwedd pwynt 3: Hyrwyddo cynlluniau i
liniaru ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys
drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu
cronfeydd llifogydd diogel. Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i
gael llifogydd. Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.11 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cymunedau
ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn
talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r
cymunedau hynny; 2. Yn cydnabod pwysigrwydd
gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i
ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi
effeithio arnynt, gan gynnwys: a) archwilio hyfywedd darparu rhyddhad
ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt; b) adolygu sut y mae'r
Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut
y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd; c) darparu rhyddid ychwanegol
i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio
ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a d) asesu sut y gall y rhaglen
datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr
effeithir arnynt gan lifogydd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad
llifogydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein
gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd
eithafol a llifogydd yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ar ddechrau is-bwynt 3c),
mewnosoder: 'adolygu'r dystiolaeth ar
gyfer' Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 3: Hyrwyddo cynlluniau i liniaru
ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys drwy
blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu
cronfeydd llifogydd diogel. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael
llifogydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod cymunedau
ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn
talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r
cymunedau hynny; 2. Yn cydnabod pwysigrwydd
gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i
ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a 3. Yn gresynu at fethiant
Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad
llifogydd. 4. Yn gresynu at benderfyniad
Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein
gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd
eithafol a llifogydd yn y dyfodol. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi
effeithio arnynt, gan gynnwys: a) archwilio hyfywedd darparu
rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt; b) adolygu sut y mae'r
Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut
y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd; c) adolygu'r dystiolaeth ar
gyfer darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw
waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a d) asesu sut y gall y rhaglen
datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr
effeithir arnynt gan lifogydd. e) hyrwyddo cynlluniau i
liniaru ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys
drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu
cronfeydd llifogydd diogel. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael
llifogydd. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.09 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5924 Lynne Neagle (Torfaen) Strategaeth genedlaethol
ar ddementia i Gymru - ymateb i her iechyd ein hamser. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.14 NDM5924 Lynne Neagle (Torfaen) Strategaeth genedlaethol ar
ddementia i Gymru - ymateb i her iechyd ein hamser. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |