Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.17

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.37

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Adnewyddu'r Polisi Newid yn yr Hinsawdd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Iawndal TB - Y Camau Nesaf

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.47

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth - Gohiriwyd

(60 munud)

7.

Dadl: Dyfodol Datganoli i Gymru

NDM5605

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Elin Jones (Ceredigion)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog y bydd Cymru yn rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.

2. Yn galw am gyd-drafodaethau sydd wedi’u llywio gan ganfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk 1, gan gynnwys asesiad diweddar o lefel bresennol cyllid cymharol Cymru ac i ba gyfeiriad y mae’n debygol o fynd yn y dyfodol.

3. Yn galw ar y trafodaethau hynny, a ddylai ddechrau ar unwaith a dod i ben erbyn mis Ionawr 2015, i ganolbwyntio’n benodol ar ariannu teg, gyda’r nod o sicrhau bod cyllid gwaelodol yn cael ei weithredu ar frys sy’n rhoi sylw i danariannu mewn modd sy’n gyson ag anghenion Cymru ac sy’n atal cydgyfeirio yn y dyfodol.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) sicrhau bod yr un pwerau’n cael eu rhoi i Gymru o ran datganoli Treth Gorfforaeth os yw’r pwerau hynny’n cael eu rhoi i Ogledd Iwerddon a’r Alban;

b) datganoli Toll Teithwyr Awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol;

c) adolygu lefel y pwerau benthyca a roddir i Gymru ym Mil Cymru; ac

d) cydweithio â Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyhoeddi ei bondiau ei hun.

5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os yw penderfyniad yn cael ei gymryd i gynnal Refferendwm ar  bwerau amrywio trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru.

6. Yn ceisio cadarnhad y bydd y model Cadw Pwerau yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau etholiadol.

8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud cynnydd o ran Silk 2.

9. Yn cadarnhau y dylid datblygu’r materion hyn ymhellach mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.15

c) adolygu lefel y pwerau benthyca a roddir i Gymru ym Mil Cymru; a

d) cydweithio â Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyhoeddi ei bondiau ei hun.

5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os yw penderfyniad yn cael ei gymryd i gynnal Refferendwm ar bwerau amrywio trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru.

6. Yn ceisio cadarnhad y bydd y model Cadw Pwerau yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau etholiadol.

8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud cynnydd o ran Silk 2.

9. Yn cadarnhau y dylid datblygu’r materion hyn ymhellach mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Datganiad gan y Llywydd

Mae'r Cynulliad wedi siarad ag un llais heddiw, gan bennu ei flaenoriaethau ar gyfer dyfodol datganoli yng Nghymru.

Mae'r cynnig trawsbleidiol hwn yn pennu blaenoriaethau clir.  Rwyf bellach yn disgwyl i Lywodraeth y DU gadw at ei haddewid i roi Cymru wrth wraidd dadl datganoli y DU.

Mae'n amser i'r Cynulliad gael ei gydnabod fel deddfwrfa barhaol gyda'r hawliau, y capasiti a'r statws cywir i ddarparu'r hyn y mae pobl Cymru yn disgwyl ei gael.

(60 munud)

8.

Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

NDM5599 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2013-14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2014.

Dogfen Ategol

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2013-14

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.06

NDM5599 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 2013-14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2014.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Cyfnod Pleidleisio

Penderfyniad:

Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM5602 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Anodd ei stumogi: clefyd seilag a'r angen i wella'r ddarpariaeth o fwyd heb glwten yng Nghymru.

Bwriad y ddadl hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o glefyd seilag a'i ddiagnosis yng Nghymru yn ogystal â'r diffyg bwyd heb glwten mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.39

NDM5602 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Anodd ei stumogi: clefyd seilag a'r angen i wella'r ddarpariaeth o fwyd heb glwten yng Nghymru.

Bwriad y ddadl hon yw cynyddu ymwybyddiaeth o glefyd seilag a'i ddiagnosis yng Nghymru yn ogystal â'r diffyg bwyd heb glwten mewn ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: