Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad gan y Dirprwy Lywydd Cyhoeddodd y Dirprwy
Lywydd bod y Biliau a ganlyn wedi cael
Cydsyniad Brenhinol: Rhoddwyd Cydsyniad
Brenhinol i’r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) ar 30 Gorffennaf; Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) ar 10 Medi. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6
ac 8 i 15. Trosglwyddwyd cwestiwn
7 i’w ateb yn ysgrifenedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.57 Gofynnwyd y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig Gweithdrefnol Cafwyd
cynnig gweithdrefnol gan Ann Jones yn unol â Rheol Sefydlog 12.32 i ohirio’r ddadl fer ar
ran Julie James. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5302 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod gan fwyafrif y plant a gaiff eu gwahardd
neu eu dysgu
y tu allan
i leoliad ysgol anghenion dysgu ychwanegol neu arbennig, eu bod yn fechgyn, y gallant hawlio prydau ysgol
am ddim, eu bod yn blant sy’n
derbyn gofal, neu y cânt eu
dysgu’n aml mewn uned cyfeirio
disgyblion; 2.
Yn cydnabod yr anghysondebau rhwng awdurdodau lleol ynghylch addysg y tu allan i leoliad ysgol; 3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ostwng y cyfnod gorfodol lle mae gofyn i awdurdodau lleol ddarparu addysg i ddisgyblion wedi’u gwahardd; a 4.
Yn galw am roi strategaeth gydlynol ar waith
ar gyfer disgyblion a gaiff eu dysgu y tu
allan i leoliad
ysgol, er mwyn monitro a gwella eu cyfleoedd
a’u canlyniadau addysgol. Ym mhwynt 1, cynnwys ar ôl ‘blant sy’n derbyn gofal’: ‘eu bod o gefndiroedd difreintiedig, eu bod o gymunedau
pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, eu bod mewn ysgolion neu ddosbarthiadau
mawr,’ Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd o ran helpu plant sydd
wedi cael eu gwahardd o’r ysgol ers yr adroddiad ymchwil yn 2011 a gomisiynwyd
gan Lywodraeth Cymru ar waharddiadau anghyfreithlon o’r ysgol yng Nghymru. Mae’r adroddiad ar gael yn: Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi’r canlynol yn eu lle: Yn nodi: a) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod
Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu dyletswyddau cyfredol mewn perthynas â darparu
addysg i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd; a b) y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar
sicrhau bod polisïau ac arferion da yn cael eu gweithredu’n drylwyr i ofalu bod
plant a addysgir y tu allan i leoliad ysgol yn cael gwell canlyniadau. [Os
derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘wedi’u gwahardd’ a
chynnwys: ‘ac i adrodd ar y camau y mae’n eu cymryd i helpu’r plant
hynny sydd wedi’u gwahardd neu’n cael eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol i
gael eu hailintegreiddio cyn gynted â phosibl;’ Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio i ba raddau y mae
cyrsiau hyfforddi athrawon yn arfogi athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i
gefnogi myfyrwyr sydd mewn perygl o gael eu gwahardd neu sy’n cael eu dysgu y
tu allan i leoliad ysgol. [Os
derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 6 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4: ‘a bod Llywodraeth Cymru yn nodi’r camau y bydd yn eu
cymryd i weithredu argymhellion adroddiad 2013 ar werthuso’r ddarpariaeth
addysg i blant a phobl ifanc sy’n cael eu dysgu y tu allan i’r ysgol.’ Mae’r adroddiad ar gael yn: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.03 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5302
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod gan fwyafrif y plant a gaiff eu gwahardd
neu eu dysgu
y tu allan i leoliad ysgol anghenion
dysgu ychwanegol neu arbennig, eu
bod yn fechgyn, y gallant hawlio prydau ysgol
am ddim, eu bod yn blant sy’n
derbyn gofal, neu y cânt eu
dysgu’n aml mewn uned cyfeirio
disgyblion; 2.
Yn cydnabod yr anghysondebau rhwng awdurdodau lleol ynghylch addysg y tu allan
i leoliad ysgol; 3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ostwng y cyfnod gorfodol lle mae
gofyn i awdurdodau lleol ddarparu addysg i ddisgyblion wedi’u gwahardd; a 4.
Yn galw am roi strategaeth gydlynol ar waith
ar gyfer disgyblion a gaiff eu dysgu y tu
allan i leoliad ysgol, er mwyn
monitro a gwella eu cyfleoedd a’u
canlyniadau addysgol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 1, cynnwys ar ôl ‘blant sy’n derbyn gofal’: ‘eu bod o gefndiroedd difreintiedig, eu bod o gymunedau
pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, eu bod mewn ysgolion neu
ddosbarthiadau mawr,’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu wrth y diffyg cynnydd o ran helpu plant sydd
wedi cael eu gwahardd o’r ysgol ers yr adroddiad ymchwil yn 2011 a gomisiynwyd
gan Lywodraeth Cymru ar waharddiadau anghyfreithlon o’r ysgol yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 3 - Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi’r canlynol yn eu lle: Yn nodi: a) bod Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod
Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu dyletswyddau cyfredol mewn perthynas â darparu
addysg i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd; a b) y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar
sicrhau bod polisïau ac arferion da yn cael eu gweithredu’n drylwyr i ofalu bod
plant a addysgir y tu allan i leoliad ysgol yn cael gwell canlyniadau. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘wedi’u gwahardd’ a
chynnwys: ‘ac i adrodd ar y camau y mae’n eu cymryd i helpu’r plant
hynny sydd wedi’u gwahardd neu’n cael eu dysgu y tu allan i leoliad ysgol i
gael eu hailintegreiddio cyn gynted â phosibl;’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio i ba raddau y mae
cyrsiau hyfforddi athrawon yn arfogi athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i
gefnogi myfyrwyr sydd mewn perygl o gael eu gwahardd neu sy’n cael eu dysgu y
tu allan i leoliad ysgol. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4: ‘a bod Llywodraeth Cymru yn nodi’r camau y bydd yn eu
cymryd i weithredu argymhellion adroddiad 2013 ar werthuso’r ddarpariaeth
addysg i blant a phobl ifanc sy’n cael eu dysgu y tu allan i’r ysgol.’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5302
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod gan fwyafrif y plant a gaiff eu gwahardd
neu eu dysgu
y tu allan i leoliad ysgol anghenion
dysgu ychwanegol neu arbennig, eu
bod yn fechgyn, y gallant hawlio prydau ysgol
am ddim, eu bod yn blant sy’n
derbyn gofal, neu y cânt eu
dysgu’n aml mewn uned cyfeirio
disgyblion; 2.
Yn cydnabod yr anghysondebau rhwng awdurdodau lleol ynghylch addysg y tu allan
i leoliad ysgol; 3.
Yn annog Llywodraeth Cymru i ostwng y cyfnod gorfodol lle mae
gofyn i awdurdodau lleol ddarparu addysg i ddisgyblion wedi’u gwahardd; a 4.
Yn galw am roi strategaeth gydlynol ar waith
ar gyfer disgyblion a gaiff eu dysgu y tu
allan i leoliad ysgol, er mwyn
monitro a gwella eu cyfleoedd a’u
canlyniadau addysgol a bod Llywodraeth Cymru yn nodi’r camau
y bydd yn eu cymryd i weithredu
argymhellion adroddiad 2013
ar werthuso’r ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc
sy’n cael eu dysgu y tu
allan i’r ysgol.
Fel
sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig
wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5304 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1. Yn nodi bod
galwad olaf am dystiolaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk)
yn dod i ben ddydd Gwener, 27 Medi 2013. 2. Yn nodi bod y
gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar ran Comisiwn Silk yn dangos cefnogaeth sylweddol
dros roi rhagor o bwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth
benodol dros drosglwyddo pwerau ynni adnewyddadwy (70%), plismona (63%) a
darlledu a rheoleiddio’r cyfryngau (58%). 3. Yn nodi
ymhellach y gefnogaeth a welwyd y llynedd dros drosglwyddo pwerau ariannol,
gyda 64% yn cefnogi trosglwyddo pwerau treth incwm i Lywodraeth Cymru, 80% yn
cefnogi pwerau benthyca ar gyfer prosiectau seilwaith, a 72% o blaid trethi
‘cymell’. 4. Yn mynegi
pryder bod Llywodraeth y DU wedi oedi cymaint cyn ymateb i adroddiad cyntaf
Comisiwn Silk, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i lynu wrth yr amserlen a nodwyd
gan Gomisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi eu
hymatebion yn brydlon i’r ail adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi’r gwanwyn nesaf. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i greu gwell trefn
lywodraethu i Gymru o fewn y Deyrnas Unedig drwy gyflwyno’r refferendwm ar
bwerau deddfu sylfaenol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlu’r Comisiwn ar
Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) ar bwerau ac atebolrwydd ariannol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn croesawu’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi sefydlu
Comisiwn Silk, yn unol â’r ymrwymiad yng nghytundeb clymblaid Llywodraeth y DU. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cefnogi datganoli pwerau ariannol dros drethi a
benthyca fel yr argymhellwyd gan Ran I Comisiwn Silk. Mae Rhan I Silk ar gael yn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/ Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod angen ystyried ac asesu Rhan I Silk,
Grymuso a Chyfrifoldeb, yn ofalus o ran ei heffaith ar rannau eraill o’r
Deyrnas Unedig a’r manteision i Gymru ac, ar ôl cwblhau’r asesiadau hynny,
edrych ymlaen at gyflwyno’n brydlon y mesurau a amlinellwyd yn Rhan I Silk i
greu gwell atebolrwydd dros gyllid Cymru. Mae Rhan I Silk ar gael yn: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.58 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5304
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 1.
Yn nodi bod galwad olaf am dystiolaeth y Comisiwn ar Ddatganoli yng
Nghymru (Comisiwn Silk) yn dod i ben ddydd
Gwener, 27 Medi 2013. 2.
Yn nodi bod y gwaith ymchwil a wnaethpwyd ar ran Comisiwn Silk yn dangos cefnogaeth sylweddol dros roi rhagor o bwerau
i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth
benodol dros drosglwyddo pwerau ynni adnewyddadwy (70%), plismona (63%) a darlledu a rheoleiddio’r cyfryngau (58%). 3.
Yn nodi ymhellach
y gefnogaeth a welwyd y llynedd dros drosglwyddo
pwerau ariannol, gyda 64% yn cefnogi
trosglwyddo pwerau treth incwm i Lywodraeth
Cymru, 80% yn cefnogi pwerau benthyca ar gyfer
prosiectau seilwaith, a 72%
o blaid trethi
‘cymell’. 4.
Yn mynegi pryder bod Llywodraeth y DU wedi oedi cymaint
cyn ymateb i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, ac yn galw ar Lywodraeth
y DU i lynu wrth yr amserlen a nodwyd
gan Gomisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi eu hymatebion
yn brydlon i’r ail adroddiad pan gaiff ei gyhoeddi’r
gwanwyn nesaf.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5306 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod pwysigrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion wrth helpu i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol, a chau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’r rheini o gefndiroedd
mwy breintiedig. 2.
Yn nodi’r gwaith ymchwil diweddar gan Ddemocratiaid
Rhyddfrydol Cymru i effaith y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru, sydd: a)
yn dangos
bod y cyllid yn cael effaith gadarnhaol
ar lefelau cyrhaeddiad plant o gefndiroedd tlotach ac ar wella
hyder a phresenoldeb; a b)
yn archwilio
ffyrdd o wella’r grant yn y dyfodol. 3.
Yn nodi bod y cyllid ar gyfer
y Premiwm Disgyblion yn Lloegr wedi
cynyddu o un flwyddyn i’r llall,
o £488 fesul disgybl cymwys yn 2011-12 i £1300 yn 2014-15 o’i gymharu â £450 fesul disgybl cymwys yng Nghymru. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a)
cynyddu’n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion fesul disgybl yn
y gyllideb nesaf; b)
archwilio’r manteision o ehangu’r Grant Amddifadedd Disgyblion i ddisgyblion o dan bump oed; c)
sicrhau bod y canllawiau ar y grant yn glir ac yn
gryno ac yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu Pecyn Cymorth Ymddiriedolaeth Sutton ar gyfer Cymru; d)
darparu sicrwydd
dros ddyfodol y Grant Amddifadedd Disgyblion a gwybodaeth amserol am ddyraniadau unigol i ysgolion; e)
annog ysgolion
i gael polisi clir ar gyfer
monitro a gwerthuso cadarn gan sicrhau
nad yw’r broses yn or-fiwrocrataidd; ac f)
sefydlu fformiwla
gyllido decach sy’n sicrhau bod y cyllid yn adlewyrchu’n
gywir nifer y disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a gaiff eu cefnogi gan
gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae’r gwaith
ymchwil gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ar y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gael yn: http://welshlibdems.org.uk/en/document/learning-lessons-from-the-pupil-deprivation-grant.pdf Cyflwynwydy gwelliant
a ganlyn: Cynnwys pwynt 2 a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu wrth y diffyg eglurder o ran deall a
gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar draws yr ysgolion a arolygwyd. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.03 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5306
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod pwysigrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion wrth helpu i dorri’r
cysylltiad rhwng tlodi a thangyflawni addysgol, a chau’r bwlch cyrhaeddiad
rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’r rheini o gefndiroedd mwy
breintiedig. 2.
Yn nodi’r gwaith ymchwil diweddar gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru i effaith
y Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru, sydd: a)
yn dangos bod y cyllid yn cael effaith gadarnhaol ar
lefelau cyrhaeddiad plant o gefndiroedd tlotach ac ar wella hyder a
phresenoldeb; a b)
yn archwilio ffyrdd o wella’r grant yn y dyfodol. 3.
Yn nodi bod y cyllid ar gyfer y Premiwm Disgyblion yn Lloegr wedi cynyddu o un flwyddyn i’r llall, o £488 fesul disgybl cymwys yn
2011-12 i £1300 yn 2014-15 o’i gymharu â £450 fesul disgybl cymwys yng Nghymru.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
cynyddu’n sylweddol y cyllid ar gyfer y Grant
Amddifadedd Disgyblion fesul disgybl yn y gyllideb nesaf; b)
archwilio’r manteision o ehangu’r Grant Amddifadedd
Disgyblion i ddisgyblion o dan bump oed; c)
sicrhau bod y canllawiau ar y grant yn glir ac yn
gryno ac yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu Pecyn Cymorth Ymddiriedolaeth Sutton
ar gyfer Cymru; d)
darparu sicrwydd dros ddyfodol y Grant Amddifadedd
Disgyblion a gwybodaeth amserol am ddyraniadau unigol i ysgolion; e)
annog ysgolion i gael polisi clir ar gyfer monitro a
gwerthuso cadarn gan sicrhau nad yw’r broses yn or-fiwrocrataidd; ac f)
sefydlu fformiwla gyllido decach sy’n sicrhau bod y
cyllid yn adlewyrchu’n gywir nifer y disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a
gaiff eu cefnogi gan gyllid y Grant Amddifadedd Disgyblion.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 -
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 2 a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu wrth y diffyg eglurder o ran deall a
gweithredu’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar draws yr ysgolion a arolygwyd. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Cyfnod Adrodd ar y Bil Cartrefi Symudol (Cymru) Yn unol
â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn
y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio
atynt yn codi yn y Bil. Mae’r gwelliannau
wedi cael eu grwpio at ddibenion
y ddadl a byddant yn cael eu
trafod fel a ganlyn: 1.
Technegol ac egluro 5,
6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 20, 23, 25, 26, 27, 28, 29, 30,
31, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 55, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51 2.
Prawf person addas a phriodol 1,
2 3.
Gorchmynion ad-dalu 4 4.
Diffinio ‘teulu’ 17,
21, 22, 24 32,
53, 54, 33, 34, 35, 36, 37 6.
Gwelliannau canlyniadol 52 Dogfennau ategol: Memorandwm Esboniadol diwygiedig Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.55 Yn unol a Rheol Sefydlog
26.36, cafodd y gwelliannau
eu gwaredu yn y drefn y mae’r
adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt
yn codi yn
y Bil. Cafodd
y gwelliannau
eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodwyd yn ôl y grwpiau a ganlyn: 1. Technegol ac egluro 5,
6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 20, 23, 25, 26, 27, 28, 29, 30,
31, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 55, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51 2. Prawf person addas a phriodol 1,
2 3. Gorchmynion
ad-dalu 4 4. Diffinio ‘teulu’ 17,
21, 22, 24 5. Gorchmynion a rheoliadau 32,
53, 54, 33, 34, 35, 36, 37 6. Gwelliannau canlyniadol 52 Cynhaliwyd y pleidleisiau yn y drefn a nodir
yn y Rhestr o Welliannau wedi’u didoli. Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 20 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 21 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 24 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 25 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 26 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 29 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 30 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 31 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 32 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 53:
Gwrthodwyd gwelliant 53. Gan fod gwelliant 53 wedi’i wrthod, methodd gwelliant 54. Derbyniwyd gwelliant 33 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 34 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 35 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 36 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 37 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 38 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 39 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 40 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 41 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 42 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 43 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 44 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 55 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 45 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 46 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 47 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 48 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 49 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 50 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 51 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Derbyniwyd gwelliant 52 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn,
gan ddod â thrafodion y Cyfnod Adrodd i ben. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Cartrefi Symudol (Cymru) Ar ddiwedd
y Cyfnod Adrodd caiff yr Aelod
sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei
basio yn unol â Rheol Sefydlog
26.47: Cynnig Cyfnod
4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Cartrefi Symudol
(Cymru) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.35 Ar ddiwedd y Cyfnod Adrodd caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael
ei basio yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:
Cynnig Cyfnod
4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cartrefi Symudol
(Cymru) Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 18.42 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Fer - Gohiriwyd NDM5305 Julie James (Gorllewin Abertawe): Manteision Canmlwyddiant
Dylan Thomas i Gymru |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |