Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro Cafodd Rhodri Glyn Thomas ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd
wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30. Gofynnwyd cwesitynau 2-14. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:28. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Rhaglen dileu Twbercwlosis mewn Gwartheg yng Nghymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:34. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 NDM4941 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol
1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio
yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2012. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:27. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad Blynyddol 2010-2011 Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (ESTYN) NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a
Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11.
http://www.estyn.gov.uk/cymraeg/adroddiad-blynyddol/adroddiadau-blynyddol-2010-2011 Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau
llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella
llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio
cwricwlwm yr ysgol.’ Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4
disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o
dan eu gwir oedran. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi
‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella
llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio
cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod
safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymateb ysgrifenedig i
adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng
Nghymru. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i greu gofyniad cyfreithiol iddi ymateb yn
ffurfiol, yn ysgrifenedig, i adroddiadau blynyddol Estyn yn y dyfodol. Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial
i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu mai ychydig iawn fydd bandio ysgolion yn ei wneud i fynd i’r
afael â datganiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant sef ‘Hyd yn oed
lle mae ysgol wedi cael ei barnu’n ‘dda’ ar y cyfan, mae ansawdd yr addysgu
neu’r dysgu’n aml yn wael yn rhai o’r gwersi neu’r adrannau unigol'. Gwelliant 10 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o
awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion
‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'. Gwelliant 11 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y ffaith bod yr amserlenni ar gyfer gwella addysg a luniwyd
gan Lywodraeth Cymru yn anghyson. Gwelliant 12 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau dros dro i sicrhau ei bod yn
cyrraedd ei tharged cyffredinol sef bod system ysgolion Cymru ymysg 20 uchaf y
byd erbyn 2015. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:34. NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a
Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2010-11. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Nodi ymhellach fod yr adroddiad yn dweud bod ‘lefel isel y medrau
llythrennedd yn dal i beri problemau yng Nghymru’ ac nad yw ‘gwella
llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio
cwricwlwm yr ysgol.’ Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod gan 4
disgybl o bob 10 sy’n mynd i ysgol uwchradd oed darllen sydd o leiaf 6 mis o
dan eu gwir oedran. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi
‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella
llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio
cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion. Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod
safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu nad oes yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu ymateb ysgrifenedig i
adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng
Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant
6. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i greu gofyniad cyfreithiol iddi ymateb yn ffurfiol,
yn ysgrifenedig, i adroddiadau blynyddol Estyn yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant
7. Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial
i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant
8. Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu mai ychydig iawn fydd bandio ysgolion yn ei wneud i fynd i’r afael
â datganiad y Prif Arolygydd dros Addysg a Hyfforddiant sef ‘Hyd yn oed lle mae
ysgol wedi cael ei barnu’n ‘dda’ ar y cyfan, mae ansawdd yr addysgu neu’r
dysgu’n aml yn wael yn rhai o’r gwersi neu’r adrannau unigol'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant
9. Gwelliant 10 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o
awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion
‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
Derbyniwyd gwelliant
10. Gwelliant 11 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y ffaith bod yr amserlenni ar gyfer gwella addysg a luniwyd gan
Lywodraeth Cymru yn anghyson. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
Gwrthodwyd gwelliant
11. Gwelliant 12 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targedau dros dro i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei tharged cyffredinol sef bod system ysgolion Cymru ymysg 20 uchaf y byd erbyn 2015. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
Gwrthodwyd gwelliant
12. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4943 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru ar gyfer 2010-11. Mynegi pryder difrifol bod pump y cant o’r ysgolion a arolygwyd wedi achosi
‘pryder difrifol’ i Estyn, a bod angen ymweliadau dilynol ar 25 y cant. Gresynu wrth ganfyddiadau gan Estyn sy’n awgrymu nad yw ‘gwella
llythrennedd y disgyblion yn cael rhan ddigon canolog yn y gwaith o gynllunio
cwricwlwm yr ysgol’ mewn nifer o ysgolion. Gresynu wrth ganfyddiadau yn yr adroddiad blynyddol sy’n awgrymu bod
safonau dysgu’n amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Croesawu cyflwyno’r Grant Amddifadedd Disgyblion yng Nghymru a’r potensial
i wella cyflawniad i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. Gresynu wrth y dystiolaeth yn yr Adroddiad sy’n awgrymu nad oes nifer o
awdurdodau lleol yn ymwybodol o berfformiad eu hysgolion a bod rhai ysgolion
‘wedi cael tanberfformio dros gyfnod hir'.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Agenda strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd – “Gwyddoniaeth i Gymru” NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi’r agenda strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng
Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru. Mae agenda strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd –
Gwyddoniaeth i Gymru i’w gweld ar y ddolen hon: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/csaw/publications/120312sfw/?skip=1&lang=cy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y
DU yn 2009/10. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r
ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch
wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau
Safon Uwch yn gyffredinol’. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i
fynd i ddysgu pynciau STEM. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi
mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen
Fframwaith yr UE i wneud hyn. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau
gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella
gwyddoniaeth ac arloesedd. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth
fel dangosydd pwnc craidd mewn ysgolion. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.27 NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi’r agenda strategol
newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu mai dim ond
3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y DU yn 2009/10. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r
ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch
wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau
Safon Uwch yn gyffredinol’. Derbyniwyd gwelliant
2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i
fynd i ddysgu pynciau STEM. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi
mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen
Fframwaith yr UE i wneud hyn. Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd. Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y
Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd
pwnc craidd mewn ysgolion. Derbyniwyd gwelliant
6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4942 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi’r agenda strategol newydd ar gyfer gwyddoniaeth ac arloesedd yng
Nghymru – Gwyddoniaeth i Gymru. Gresynu mai dim ond 3.3 y cant oedd cyfran Cymru o gyllid cyngor ymchwil y
DU yn 2009/10. Gresynu wrth y ‘lleihad yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau STEM a’r
ffaith nad yw nifer y disgyblion sy’n astudio’r pynciau hyn ar gyfer Safon Uwch
wedi cynyddu yn unol â nifer y disgyblion sy’n cofrestru ar gyfer arholiadau
Safon Uwch yn gyffredinol’. Galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i annog pobl dalentog iawn i
fynd i ddysgu pynciau STEM. Galw ar Lywodraeth Cymru i annog rhagor o fusnesau yng Nghymru i fuddsoddi
mewn ymchwil a datblygu mentrau busnes ac i gael gafael ar gyllid Rhaglen
Fframwaith yr UE i wneud hyn. Galw ar Lywodraeth Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi yn amlinellu pwyntiau gweithredu allweddol ac yn pennu targedau diffiniadwy ar gyfer gwella gwyddoniaeth ac arloesedd. Galw ar y
Gweinidog Addysg a Sgiliau i egluro’r sefyllfa o ran gwyddoniaeth fel dangosydd
pwnc craidd mewn ysgolion. Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17.28 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |