Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro Cafodd Rhodri Glyn Thomas ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros dro. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30. Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16. Gofynnwyd cwestiynau 1-8 a 10. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4924 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd mewnfuddsoddiad i economi Cymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar Fewnfuddsoddiad yng Nghymru; a 3. Yn cymeradwyo sylwadau’r Athro Brian Morgan a ddywedodd ei bod yn debyg y bydd cau’r WDA a diddymu ‘brand WDA’ yn cael ei gofio fel y penderfyniad polisi gwaethaf a wnaed yng Nghymru mewn cof. Gellir gweld Adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar Fewnfuddsoddiad yng Nghymru drwy fynd i: http://www.publications.parliament.uk/pa/cm201012/cmselect/cmwelaf/854/85402.htm (Saesneg yn unig) Gellir gweld yr erthygl i’r wasg sy’n cynnwys sylwadau’r Athro Brian Morgan drwy fynd i: http://www.dailypost.co.uk/business-news/business-news/2011/07/13/wales-loses-out-on-6bn-and-thousands-of-jobs-55578-29041751/
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Ym mhwynt 1, rhoi "cymharol" ar ôl "Yn nodi pwysigrwydd…" Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: 2. Yn cydnabod bod angen i Gymru ddod yn lleoliad mwy deniadol i fuddsoddi; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar agweddau o fuddsoddi nad ydynt yn or-ddibynnol ar gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau unigol. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau gwell seilwaith a lefelau uwch o sgiliau, yn ogystal â marchnata Cymru’n well, er mwyn denu rhagor o fewnfuddsoddiad. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.04. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM4924 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd mewnfuddsoddiad i economi Cymru; 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â'r materion a amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar Fewnfuddsoddiad yng Nghymru; a 3. Yn cymeradwyo sylwadau’r Athro Brian Morgan a ddywedodd ei bod yn debyg y bydd cau’r WDA a diddymu ‘brand WDA’ yn cael ei gofio fel y penderfyniad polisi gwaethaf a wnaed yng Nghymru mewn cof.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 1, rhoi "cymharol" ar ôl "Yn nodi pwysigrwydd…" Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle: 2. Yn cydnabod bod angen i Gymru ddod yn lleoliad mwy deniadol i fuddsoddi; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar agweddau o fuddsoddi nad ydynt yn or-ddibynnol ar gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau unigol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau gwell seilwaith a lefelau uwch o sgiliau, yn ogystal â marchnata Cymru yn well, er mwyn denu rhagor o fewnfuddsoddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4924 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd cymharol mewnfuddsoddiad i economi Cymru; 2. Yn cydnabod bod angen i Gymru ddod yn lleoliad mwy deniadol i fuddsoddi; 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar agweddau o fuddsoddi nad ydynt yn or-ddibynnol ar gefnogaeth uniongyrchol i fusnesau unigol; a 4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau gwell seilwaith a lefelau uwch o sgiliau, yn ogystal â marchnata Cymru yn well, er mwyn denu rhagor o fewnfuddsoddiad.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM4925 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth adroddiadau diweddar am oedi mewn gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cadeiriau olwyn ac yn cydnabod yr effaith negyddol y gall y rhain eu cael ar ansawdd bywyd y rheini sy’n defnyddio cadeiriau olwyn; 2. Yn croesawu’r ‘ymchwiliad undydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru’ sydd i’w gynnal gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi mwy o flaenoriaeth i fynd i’r afael ag oedi o ran uwchraddio ac atgyweirio, ynghyd â darparu cadair olwyn yn y lle cyntaf, yn enwedig i blant; a b) darparu diweddariad cynhwysfawr am y cynnydd at wella gwasanaethau cadeiriau olwyn ers Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2010. Gellir gweld Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru drwy fynd i: Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu’n llawn argymhellion adroddiad 2010 y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar wasanaethau cadeiriau olwyn. Gwelliant 2 - Peter
Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro ei gwariant ar wasanaethau cadeiriau olwyn i sicrhau bod arian sy’n cael ei wario ar blant a phobl ifanc yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.11. NDM4925 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth adroddiadau diweddar am oedi mewn gwasanaethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cadeiriau olwyn ac yn cydnabod yr effaith negyddol y gall y rhain eu cael ar ansawdd bywyd y rheiny sy’n defnyddio cadeiriau olwyn; 2. Yn croesawu’r ‘ymchwiliad undydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru’ sydd i’w gynnal gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) rhoi mwy o flaenoriaeth i fynd i’r afael ag oedi o ran uwchraddio ac atgyweirio, ynghyd â darparu cadair olwyn yn y lle cyntaf, yn enwedig i blant; a b) darparu diweddariad cynhwysfawr am y cynnydd at wella gwasanaethau cadeiriau olwyn ers Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2010. Derbyniwyd y cynnig
heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4926 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol; 2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi methu â chynnal ffydd y cyhoedd a chlinigwyr; a 3. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i: a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt
2, dileu popeth ar ôl "Dda"
a rhoi yn ei le: "yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er
bod ganddo waith i’w wneud eto,
i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr
yn ei ardal
leol; a" Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu fel
pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: 3. Yn nodi
ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty
Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.02. Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio: NDM4926 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol; 2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi methu â chynnal ffydd y cyhoedd a chlinigwyr; a 3. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i: a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl "Dda" a rhoi yn ei le: "yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol; a" Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: 3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4926 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir i iechyd y wlad gan rwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y GIG yn gweithio gyda Chanolfannau Arbenigol rhanbarthol; 2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gweithio’n arloesol ac yn eang, er bod ganddo waith i’w wneud eto, i ymgysylltu ac egluro dyfodol gwasanaethau’r GIG i’r cyhoedd a chlinigwyr yn ei ardal leol; 3. Yn nodi ac yn llongyfarch y gwaith gwerthfawr a wneir gan ‘The aBer Group’ o ran cryfhau cyfranogiad y cyhoedd yn nyfodol Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais; a 4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i: a) cynnal rhwydwaith o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth i sicrhau bod dinasyddion Cymru o fewn pellter diogel i’w gwasanaethau achub bywydau; a b) cyfarwyddo Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Powys i weithio ar draws ffiniau gweinyddol i sicrhau bod anghenion meddygol a llawfeddygol pobl canolbarth Cymru yn cael eu diwallu’n ddiogel ac yn ddigonol gan Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Bronglais.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 18.07. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM4923 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd):
Cuts Watch Cymru Bydd y ddadl
hon yn tynnu
sylw at waith Cuts Watch
Cymru, sef rhwydwaith o nifer o fudiadau trydydd sector yng Nghymru, sy’n dilyn
ac yn olrhain effaith toriadau i fudd-daliadau lles yng Nghymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.13. NDM4923 Mark
Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Cuts Watch Cymru Bydd y ddadl hon yn tynnu sylw
at waith Cuts Watch Cymru, sef
rhwydwaith o nifer o fudiadau trydydd sector yng Nghymru, sy’n
dilyn ac yn olrhain effaith toriadau i fudd-daliadau lles yng Nghymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |