Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r
Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd
i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Ni ofynnwyd cwestiwn 5. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Buddion caffael cyhoeddus i'r economi a chymunedau lleol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.37 |
|||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adroddiad Blynyddol Strategaeth Amgylcheddol 2010-11 Dogfen Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.20 |
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ddulliau o Adfywio NDM4915 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o ymdrin
ag adfywio
yn unol ag
agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r
afael â thlodi a chefnogi twf economaidd. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf, un o’i phrif
raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn perfformio’n well drwy
sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a mesuradwy i fynd i’r
afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y targedau hyn. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio yn
canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy gynyddu
rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig i adfywio economi
cymuned. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod nad yw micro-reolaeth Llywodraeth Cymru o’i hagenda adfywio yn
gweithio, ac y bydd rhaid i'r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol fod yn
bartneriaid gwirioneddol o ran strategaeth a chyflenwi er mwyn sicrhau adfywio
cymunedol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.56 NDM4915 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o
ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â
thlodi a chefnogi twf economaidd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn
Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn
perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a
mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y
targedau hyn. Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau
adfywio yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd
drwy gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw. Derbyniwyd
gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig mewn
adfywio economi cymuned. Derbyniwyd
gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant a oedd yn
weddill o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod
nad yw micro-reolaeth Llywodraeth Cymru o’i hagenda adfywio yn gweithio, ac y
bydd yn rhaid i'r Trydydd Sector a’r Sector Annibynnol fod yn bartneriaid
gwirioneddol o ran strategaeth a chyflenwi er mwyn sicrhau adfywio cymunedol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4915 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu adolygu ei dulliau o ymdrin ag adfywio yn unol ag agenda’r Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi twf economaidd. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymunedau yn
Gyntaf, un o’i phrif raglenni ar gyfer adfywio cymunedol, yn dangos ei bod yn
perfformio’n well drwy sicrhau bod gan y rhaglen dargedau clir, perthnasol a
mesuradwy i fynd i’r afael â thlodi a bod cyllid wedi’i gyfeirio at gyrraedd y
targedau hyn. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau adfywio
yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy
gynyddu rôl cynghorau lleol yn y broses drwyddi draw. Yn credu y gall canol tref bywiog chwarae rhan bwysig mewn adfywio economi cymuned.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
|
|||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Setliad yr Heddlu NDM4916 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran
84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid
Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2012. Dogfen Ategol: Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) (Saesneg yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.54 NDM4916 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2012-2013 (Setliad Terfynol – Awdurdodau Heddlu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2012. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Canlyniad y bleidlais:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.35 |
||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |