Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r
Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd
i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ol. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
14.24 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ardaloedd Menter Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
14.41 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adolygiad o Effeithiolrwydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
15.23 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Cyhoeddi’r Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd Dogfennau
Ategol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am15.56 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y DU ynghylch Diogelu Rhyddidau NDM4854 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno
y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeiriwyd
atynt yn NDM4680, y darpariaethau pellach hynny a ddygwyd gerbron yn Bil y DU
ynghylch Diogelu Rhyddidau sy’n ymwneud â rhyddid gwybodaeth a diogelu data,
i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 10 Tachwedd 2011 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.(iii) Dogfennau Ategol
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2012 NDM4901 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cytuno bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn y Swyddfa Gwell
Rheoleiddio Leol (Diddymu a Throsglwyddo Swyddogaethau etc) 2012 yn unol â’r drafft
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012. Gosodwyd y Memorandwm Esboniadol a memorandwm cydsyniad yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 24 Ionawr 2012. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
16.26 Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y
cynllun hwn ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol
a gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth
weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf
economaidd. Dogfen Ategol Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oes gan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol weledigaeth glir
ar gyfer cysylltu Cymru nac i leihau’r broblem gynyddol gyda thagfeydd ar
goridor yr M4. Gwellaint 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei Chynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol, gan gydgysylltu â Llywodraeth y DU, er mwyn manteisio i’r eithaf
ar y cyllid sydd ar gael drwy’r rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a
gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar
brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau
ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gwrthwynebu’r bwriad yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i ‘gynyddu
capasiti’r gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru’ ar ôl 2015 ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth hedfan ehangach ar gyfer Cymru. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth
gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl
mis Mawrth 2012 fel mater o frys. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am
16.29 NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn
ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a
gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth
weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf
economaidd. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oes gan y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol weledigaeth glir
ar gyfer cysylltu Cymru nac i leihau’r broblem gynyddol gyda thagfeydd ar
goridor yr M4. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei Chynllun Trafnidiaeth
Cenedlaethol, gan gydgysylltu â Llywodraeth y DU, er mwyn manteisio i’r eithaf
ar y cyllid sydd ar gael drwy’r rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a
gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar
brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau
ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd
gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gwrthwynebu’r bwriad yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol i ‘gynyddu capasiti’r
gwasanaeth awyr oddi mewn i Gymru’ ar ôl 2015 ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ddatblygu strategaeth hedfan ehangach ar gyfer Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru): Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl mis Mawrth 2012 fel mater o frys. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig: NDM4902 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn y cynllun hwn
ad-drefnwyd y gwaith o gyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a
gyhoeddwyd yn 2010, er mwyn canolbwyntio ar wneud i’r system drafnidiaeth
weithio’n well i helpu i fynd i’r afael â thlodi, gwella lles a hybu twf
economaidd. Yn croesawu bod y cysylltiadau strategol rhwng y gogledd a’r de, a
gynlluniwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un, yn cael eu cadw yn y Cynllun
Trafnidiaeth Cenedlaethol ar ei newydd wedd. Yn nodi effaith y toriadau difrifol yng ngwariant cyfalaf Cymru ar
brosiectau trafnidiaeth a’r angen i Lywodraeth Cymru nodi ffynonellau
ychwanegol o gyfalaf at y diben hwn. Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr darparwyr gwasanaeth trafnidiaeth
gymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu’r trefniadau cyllido ar ôl
mis Mawrth 2012 fel mater o frys.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar yr Adroddiad ar y Strategaeth Microfusnesau NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Micro-Fusnes ac ymrwymiad y
Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer
gweithredu polisi a strategaeth Micro-Fusnes.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Rhoi pwynt 1 newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn nodi bod 331,400 o bobl yn gweithio i 193,010 micro-fusnes yng Nghymru
ac yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnwys cymorth
ychwanegol ar gyfer microfusnesau yn ei chyllideb. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: ‘sy’n cynnwys mesurau i leihau baich ardrethi busnes’ Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod yr adroddiad, Buying
Smarter in Tougher Times, yn cynnwys amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei fod yn
costio £20m i fusnesau gwblhau’r cam cyn-gymhwyso er mwyn cyflwyno cais ar
gyfer contractau caffael cyhoeddus, ac mae hynny’n atal microfusnesau rhag
cystadlu.
http://wales.gov.uk/docs/det/policy/110302agenda5en.pdf Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand
cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu argymhelliad yr adroddiad i leihau’r baich rheoleiddio ar
ficrofusnesau ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gyflwyno polisi ‘un i mewn ac un allan’ ar gyfer rheoliadau sy’n
effeithio ar ficrofusnesau; a b) cyflwyno cymal machlud ar gyfer yr holl reoliadau newydd sy’n effeithio
ar ficrofusnesau er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Micro-fusnes yn
cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang
fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob micro-fusnes fynediad dibynadwy
i’r rhyngrwyd. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.24 NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Microfusnes ac ymrwymiad y
Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer gweithredu
polisi a strategaeth Microfusnes. Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Rhoi pwynt 1 newydd ar ddechrau’r cynnig: Yn nodi bod 331,400 o bobl yn gweithio i 193,010 microfusnes yng Nghymru ac
yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnwys cymorth
ychwanegol ar gyfer microfusnesau yn ei chyllideb. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd y cynnig: ‘sy’n cynnwys mesurau i leihau baich ardrethi busnes’ Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod yr adroddiad “Prynu’n Ddoethach ar Adegau Mwy Anodd” yn cynnwys
amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei fod yn costio £20m i fusnesau gwblhau’r cam
cyn-gymhwyso er mwyn cyflwyno cais ar gyfer contractau caffael cyhoeddus, ac
mae hynny’n atal microfusnesau rhag cystadlu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand
cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu argymhelliad yr adroddiad i leihau’r baich rheoleiddio ar ficrofusnesau
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) cyflwyno polisi ‘un i mewn ac un allan’ ar gyfer rheoliadau sy’n
effeithio ar ficrofusnesau; a b) cyflwyno cymal machlud ar gyfer yr holl reoliadau newydd sy’n effeithio
ar ficrofusnesau er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Microfusnes ac ymrwymiad y
Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer
gweithredu polisi a strategaeth Microfusnes. Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand
cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd
y Cyfnod Pleidleisio am 18.08 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |