Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2011 NDM4868 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2011. Dogfennau ategol: Rheoliadau
Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011- Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 NDM4869 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2011. Dogfennau ategol: Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 – Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 NDM4867 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2011. Dogfennau ategol: Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 – Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 NDM4866 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2011. Dogfennau ategol: Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 – Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(90 munud) |
Dadl ar y Gyllideb Flynyddol/Derfynol NDM4870 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25: Yn cymeradwyo’r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 29 Tachwedd 2011. Troednodyn: Yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, dyma’r wybodaeth sydd yn y Gyllideb Derfynol: 1. y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; 2. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae’r cynnig yn ymdrin â hi; 3. cysoniad rhwng yr adnoddau a neilltuwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig; 4. cysoniad rhwng amcangyfrifon o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig; a 5. cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Cyhoeddwyd yr wybodaeth ychwanegol hon hefyd ar gyfer yr Aelodau: Nodyn esboniadol ynglyn â’r newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol. Dogfennau ategol: Y
Gyllideb Flynyddol ar gyfer 2012-13 Penderfyniad: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Canlyniad y bleidlais:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Heriau Iechyd Cyhoeddus – Rheoli Tybaco NDM4871 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco; 2. Yn nodi amcanion y cynllun sef: a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac 3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law. Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ei anfon at yr Aelodau drwy e-bost ar 29 Tachwedd 2011. Dogfennau ategol: Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco Y Cynllun Cyflenwi ar Reoli Tybaco Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno
deddfwriaeth’ a rhoi yn ei le ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad hwn’. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n
manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd
y cyhoedd a achosir gan ysmygu. Penderfyniad: NDM4871 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco; 2. Yn nodi amcanion y cynllun sef: a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac 3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law. Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ei anfon at yr Aelodau drwy e-bost ar 29 Tachwedd 2011. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n
ystyried cyflwyno deddfwriaeth’ a rhoi yn ei le ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad hwn’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio
ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd
a achosir gan ysmygu. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM4871 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco; 2. Yn nodi amcanion y cynllun sef: a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac 3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law. 4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu.
|
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM4872 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth y nifer uwch o farwolaethau yn y gaeaf oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd. 2. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddi y gaeaf hwn i leihau nifer y marwolaethau yn y gaeaf. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd yn sgil cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd, gan ganolbwyntio ar: a. Ôl-ffitio stoc tai Cymru; a b. Mynd i’r afael â diffyg sicrwydd mewn perthynas ag ynni drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn datblygu ‘sgiliau gwyrdd’ y sector adeiladu yng Nghymru, fel y cofnodwyd mewn papur diweddar ‘Skills for Eco-Refurbishment’. Gellir gweld Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/100723fuelpovertystrategycy.pdf Gellir gweld y papur ‘Skills for Eco-Refurbishment’ drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://calvjones.com/pages/greenskills-74987 - Saesneg yn unig Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
3: yr hyn sy’n achosi mwy o dlodi tanwydd
ymysg cartrefi gwledig; Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt
3: cartrefi sy’n dlawd iawn o ran tanwydd nad
ydynt yn gymwys ar gyfer Gwelliannau i’r Cartref o dan gynllun “Nyth”
Llywodraeth Cymru; Gellir gweld y Cynllun Nyth drwy ddilyn y
linc a ganlyn: Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori
cynllun gweithredu’r Siarter Tlodi Tanwydd yn ei Strategaeth Tlodi Tanwydd. Gellir gweld y Siarter Tlodi Tanwydd drwy
ddilyn y linc a ganlyn: Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig: Yn nodi bod llai o bobl wedi manteisio ar
y brechlynnau ffliw tymhorol ymysg y grwpiau ‘mewn perygl’ o dan 65 oed, ac
felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau ar waith i gynyddu’r niferoedd
sy’n cael y brechlyn ffliw tymhorol er mwyn atal un o brif achosion
marwolaethau diangen dros y gaeaf. Penderfyniad: Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb
ei ddiwygio: NDM4872 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu wrth y nifer uwch o farwolaethau yn y gaeaf oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd. 2. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddi y gaeaf hwn i leihau nifer y marwolaethau yn y gaeaf. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd yn sgil cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd, gan ganolbwyntio ar: a. Ôl-ffitio stoc tai Cymru; a b. Mynd i’r afael â diffyg sicrwydd mewn perthynas ag ynni drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn datblygu ‘sgiliau gwyrdd’ y sector adeiladu yng Nghymru, fel y cofnodwyd mewn papur diweddar ‘Skills for Eco-Refurbishment’. Gellir gweld Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/100723fuelpovertystrategycy.pdf Gellir gweld y papur ‘Skills for Eco-Refurbishment’ drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://calvjones.com/pages/greenskills-74987 - Saesneg yn unig
Derbyniwyd y
cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |