Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Gwahoddodd y Llywydd y Cynulliad i sefyll am funud o dawelwch er cof am Gary Speed.

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Penderfyniad:

Gofynnwyd y 15 cwestiwn.  Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Penderfyniad:

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf.  Trosglwyddwyd cwestiwn 8 i’w ateb yn ysgrifenedig.

(45 munud)

3.

Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Penderfyniad:

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.  Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl.

Datganiad gan y Llywydd

Cyhoeddodd y Llywydd fod Peter Black a Mohammad Asghar wedi ennill balot yr Aelodau i gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth.  Caiff Peter Black a Mohammad Asghar, felly, geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ynghylch Cartrefi mewn Parciau a Menter yn y drefn honno.

(30 munud)

4.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Addysg Uwch

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyflwyno Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

(30 munud)

7.

Dadl ar Ddiwygio’r PAC

NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r PAC.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) – Tynnwyd yn ôl

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU i wrthwynebu ‘gwyrddio’ Colofn 1.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.

 

Penderfyniad:

NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r PAC.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n adeiladol â Llywodraeth y DU i wrthwynebu ‘gwyrddio’ Colofn 1.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM4865 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod cael y fargen orau i Gymru yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru wrth ddiwygio’r PAC.

 

Yn cydnabod ei bod yn hanfodol diogelu dyfodol ffermydd teulu yng Nghymru yn ystod trafodaethau am ddiwygio’r PAC.

 

Yn nodi’r effaith anghymesur a gaiff diwygio'r PAC ar systemau fferm gwahanol ac yn cydnabod bod angen trefniadau trosiannol priodol.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: