Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 2
– 4 a 4 – 9. Cafodd cwestiynau 1, 4 a 10 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.17 Gofynnwyd cwestiynau
2, 4-6 ac 8 –14. Cafodd cwestiynau 8 a 12 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Tynnwyd cwestiynau 1, 3, 7 ac 13 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar Fargeinion Dinesig Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.01 |
|||||||||
(15 munud) |
Cyfnod 4 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) NDM6015 Mark Drakeford (Gorllewin
Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Iechyd
y Cyhoedd (Cymru). Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.33 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM6015 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau NDM6010 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: O dan adran 1(2) o Fesur
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Syr Roderick
Evans yn Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Mesur hwnnw,
am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2016. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.57 NDM6010 John Griffiths
(Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Syr Roderick Evans yn Gomisiynydd
Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe
blynedd gan ddechrau ar 1 Rhagfyr 2016. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y tair eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân Cytunwyd o dan Reol
Sefydlog 12.24 i drafod y tair eitem ganlynol gyda’i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân. |
||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad NDM6013 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26,
fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfen Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.01 NDM6013 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad' a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26,
fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26A mewn perthynas â Deddfau Preifat y Cynulliad a Rheol Sefydlog 26B mewn perthynas â Deddfau Hybrid y Cynulliad NDM6014 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau
Sefydlog: Rheol Sefydlog 26A – Biliau Preifat a Rheol Sefydlog 26B – Biliau
Hybrid' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26A a
chyflwyno Rheol Sefydlog newydd 26B, fel y nodir yn Atodiadau B a D i adroddiad
y Pwyllgor Busnes. Dogfen Ategol: Penderfyniad: NDM6014 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26A – Biliau Preifat a Rheol Sefydlog 26B –
Biliau Hybrid' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26A a
chyflwyno Rheol Sefydlog newydd 26B, fel y nodir yn Atodiadau B a D i adroddiad
y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 18 a 30A mewn perthynas â Gwelliannau Amrywiol NDM6012 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa
Archwilio Cymru - a Rheol Sefydlog 30A - Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau
Statudol a wneir gan Weinidogion y DU' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 18 a
30A, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Dogfen Ategol: Penderfyniad: NDM6012 Rosemary Butler (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio
Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa
Archwilio Cymru - a Rheol Sefydlog 30A - Cydsyniad mewn Perthynas ag Offerynnau
Statudol a wneir gan Weinidogion y DU' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9
Mawrth 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 18 a
30A, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ei ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio NDM6006 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cronfa
Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016. Dogfennau Ategol: Adroddiad
y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.02 NDM6006 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cronfa Buddsoddi Cymru mewn
Adfywio, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016. Nodyn:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8
Mawrth 2016. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC NDM6009 Christine Chapman (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar yr ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016. 2. Yn cytuno y dylai'r BBC, os yw'n derbyn argymhelliad y
pwyllgor, osod adroddiadau blynyddol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon
gerbron y Cynulliad. Dogfen Ategol: Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.46 NDM6009 Christine Chapman (Cwm Cynon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar yr ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016. 2. Yn cytuno y dylai'r BBC, os yw'n derbyn argymhelliad y
pwyllgor, osod adroddiadau blynyddol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon
gerbron y Cynulliad. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru? NDM6007 Alun
Ffred Jones (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
ar yr ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016. Dogfen Ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.23 NDM6007 Alun Ffred Jones (Arfon) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
ar yr ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM6011 Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal
sylfaenol yng Nghymru, gyda phwysau cynyddol ar adnoddau a phoblogaeth sy'n
heneiddio gyda mwy o anghenion gofal cymhleth; 2. Yn nodi bod y canran o gyllid y GIG a gaiff ei wario
ar ymarfer cyffredinol wedi gostwng o 10.27 y cant yn 2005-2006 i 7.9 y cant yn
2015-2016; 3. Yn nodi bod gan Gymru y nifer leiaf ond un o feddygon
teulu yn y DU, gyda 23 y cant o feddygon teulu dros 50 oed ac anawsterau o ran
hyfforddi digon o feddygon teulu i gyflawni gofynion y gweithlu yn y dyfodol; a 4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i: a) cyflwyno cynllun mynediad at feddygon teulu i ariannu
dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i wella mynediad
cleifion at feddygon teulu; b) gwella argaeledd hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol
ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol; c) adolygu gallu'r gweithlu ymarfer cyffredinol i
ddiwallu anghenion cleifion; d) gwella addysg y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau
iechyd priodol; e) adolygu'r gofynion gweinyddol y mae meddygon teulu yn
eu hwynebu; a f) gwella'r broses o hyrwyddo ymarfer cyffredinol fel
proffesiwn. Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y lleoedd
hyfforddi ar gyfer meddygon teulu, a sicrhau bod y rotas hyfforddiant i
feddygon teulu yn cwmpasu ardaloedd gwledig a difreintiedig er mwyn cynyddu'r
cyfleoedd sydd ar gael i feddygon teulu sy'n ymarfer yn yr ardaloedd hynny. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.09 NDM6011 Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal sylfaenol yng Nghymru, gyda
phwysau cynyddol ar adnoddau a phoblogaeth sy'n heneiddio gyda mwy o anghenion
gofal cymhleth; 2. Yn
nodi bod y canran o gyllid y GIG a gaiff ei wario ar ymarfer cyffredinol wedi
gostwng o 10.27 y cant yn 2005-2006 i 7.9 y cant yn 2015-2016; 3. Yn
nodi bod gan Gymru y nifer leiaf ond un o feddygon teulu yn y DU, gyda 23 y
cant o feddygon teulu dros 50 oed ac anawsterau o ran hyfforddi digon o
feddygon teulu i gyflawni gofynion y gweithlu yn y dyfodol; a 4. Yn
galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i: a)
cyflwyno cynllun mynediad at feddygon teulu i ariannu dulliau arloesol o
ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i wella mynediad cleifion at feddygon
teulu; b)
gwella argaeledd hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol ar gyfer gweithwyr iechyd
proffesiynol; c)
adolygu gallu'r gweithlu ymarfer cyffredinol i ddiwallu anghenion cleifion; d)
gwella addysg y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd priodol; e)
adolygu'r gofynion gweinyddol y mae meddygon teulu yn eu hwynebu; a f)
gwella'r broses o hyrwyddo ymarfer cyffredinol fel proffesiwn. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6008 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Caerfyrddin 1966 a 2016:
50 mlynedd sydd wedi newid Cymru Hanes datganoli ers 1966
a'r potensial i greu llywodraeth ddatganoledig yn y dyfodol a fydd yn darparu
gwasanaethau ardderchog Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.55 NDM6008 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Caerfyrddin 1966 a 2016: 50 mlynedd sydd wedi newid
Cymru Hanes datganoli ers 1966 a'r potensial i greu
llywodraeth ddatganoledig yn y dyfodol a fydd yn darparu gwasanaethau
ardderchog. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem hon am 19.12 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Datganiadau i Gloi a Chludo’r Byrllysg o’r Siambr Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 19.13 |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |