Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw
ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau dan
bwysau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? EAQ(4)0694(HSS) Dechreuodd yr eitem am
14.17 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.28 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Y diweddaraf am y Rhaglen Buddsoddi i Arbed Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.45 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 NDM5973 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5 Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf
Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol
â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.12 NDM5973 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5 Yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015
(Diwygiadau Canlyniadol) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ionawr 2016. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir NDM5968 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n
ymwneud â rhyddfreinio ac estyn lesddaliadau hir, i'r graddau y maent yn dod o
dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried
gan Senedd y Deyrnas Unedig. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii). Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2015-16/housingandplanning.html (Saesneg yn
unig) Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.14 NDM5968 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai darpariaethau yn y Bil Tai a Chynllunio sy'n ymwneud â rhyddfreinio ac
estyn lesddaliadau hir, i'r graddau y maent yn dod o dan gymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y
Deyrnas Unedig. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i amrywio trefn Gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) NDM5969 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Casglu
a Rheoli Trethi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a.
Adrannau 2-36 b.
Adrannau 38-81 c. Adran
37 d.
Adrannau 83-116 e. Adran
82 f.
Adrannau 118-156 g. Adran
117 h.
Adrannau 157-170 i.
Adrannau 172-184 j.
Adran 171 k.
Adrannau 185-195 l.
Adran 1 m. Teitl Hir Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.17 NDM5969 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn
cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a.
Adrannau 2-36 b.
Adrannau 38-81 c.
Adran 37 d.
Adrannau 83-116 e.
Adran 82 f.
Adrannau 118-156 g.
Adran 117 h.
Adrannau 157-170 i.
Adrannau 172-184 j.
Adran 171 k.
Adrannau 185-195 l.
Adran 1 m.
Teitl Hir Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i amrywio trefn Gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) NDM5970 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i Fil Iechyd y
Cyhoedd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a. Adrannau 2
- 31 b. Atodlenni 1
a 3 c.
Adrannau 32 - 52 d. Atodlen 2 e. Adrannau 53
- 57 f.
Adrannau 59 - 96 g. Atodlen 4 h. Adran 58 i.
Adrannau 97 - 117 j.
Atodlen 5 k. Adrannau
118 – 126 l. Adran
1 m. Teitl Hir Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.17 NDM5970 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn
cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yng
Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a.
Adrannau 2 - 31 b.
Atodlenni 1 a 3 c.
Adrannau 32 - 52 d.
Atodlen 2 e.
Adrannau 53 - 57 f.
Adrannau 59 - 96 g.
Atodlen 4 h.
Adran 58 i.
Adrannau 97 - 117 j.
Atodlen 5 k.
Adrannau 118 – 126 l.
Adran 1 m.
Teitl Hir Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad Blynyddol Estyn NDM5972 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi
dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2014-15. Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror
2016. Dogfen Ategol Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod adroddiad
Estyn yn nodi "mewn ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir
diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a
dysgu" ac yn credu y byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra
chymwysedig sy'n cynnal eu datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at
godi safonau addysgu. Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod adroddiad
Estyn eleni yn dangos bod angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng
disgyblion ysgolion uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu ar adeg pan fo
nifer y disgyblion mewn ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a
phan fo prinder athrawon, fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach
nag erioed i roi amser i athrawon addysgu ein plant yn iawn. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
15.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio. NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng
Nghymru ar gyfer 2014-15. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod adroddiad Estyn yn nodi "mewn
ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir diwylliant cadarn o ddysgu
proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a dysgu" ac yn credu y
byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra chymwysedig sy'n cynnal eu
datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau addysgu. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod
angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion
uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu ar adeg pan fo nifer y disgyblion mewn
ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a phan fo prinder athrawon,
fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i
athrawon addysgu ein plant yn iawn. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd
gwelliant 3. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru ar gyfer 2014-15. 2. Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod
angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion
uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 - Dyletswydd i Adolygu - Adroddiad Terfynol NDM5971 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu
Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Dogfen Ategol Mesur
Iechyd Meddwl (Cymru) - Dyletswydd i Adolygu – Adroddiad Terfynol Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod rhestrau
aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o
uchel. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith
bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau
seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am
amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.49 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel. Derbyniwyd gwelliant 1
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros
cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn
galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau
seicolegol. Derbyniwyd gwelliant 2
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5971 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad
Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. 2. Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel. 3. Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd
aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir
ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer
ymyriadau seicolegol. Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |