Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad y Llywydd

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Cyhoeddodd y Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 26.75 fod y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) a’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Cwestiwn Brys (10 munud)

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am honiadau gan bennaeth y Coleg Brehinol Meddygaeth Frys yng Nghymru nad oedd gan yr un adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru ddigon o feddygon ymgynghorol i fodloni isafswm lefelau staffio y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys y llynedd? EAQ(4)0676(HSS)

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.30

(45 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Tata Steel

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.47

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd: Y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.59

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Prentisiaethau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Y wybodaeth ddiweddaraf am yr agenda Diwygio Gwasanaethau Datganoledig

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.19

 

7.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Argymhellion a dyfodol y Cynllun Bathodynnau Glas yng Nghymru - Tynnwyd yn ôl - i’w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig

Penderfyniad:

Tynnwyd yr eitem yn ôl

 

(15 munud)

8.

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016

NDM5918 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2015.


Dogfennau Ategol
Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Dim pwyntiau adrodd

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.56

NDM5918 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Rhagfyr 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

9.

Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014 - 2015

NDM5919 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015.

'Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-15'

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol ar gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y toriad arfaethedig o 68 y cant mewn cyllid craidd i Anabledd Cymru.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn 2012-2013.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith mai dim ond 13 y cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o blant sy'n derbyn gofal a gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a naill ai Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2014.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran gwella gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.


Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.59

NDM5919 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol ar gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi â phryder y toriad arfaethedig o 68 y cant mewn cyllid craidd i Anabledd Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn 2012-2013.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

0

49

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith mai dim ond 13 y cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o blant sy'n derbyn gofal a gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a naill ai Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2014.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran gwella gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth ddichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5919 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2014-2015.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw toriadau i'r gyllideb cymunedau a threchu tlodi yn cael effaith andwyol ar gynnydd o ran creu cymunedau mwy cydlynol a chynhwysol yng Nghymru.

3. Yn nodi bod cymhelliad hiliol i ychydig dros dri chwarter o'r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn 2012-2013.

4. Yn gresynu at y ffaith mai dim ond 13 y cant o blant sy'n Sipsiwn/Sipsiwn Roma a 17 y cant o blant sy'n derbyn gofal a gyflawnodd TGAU graddau A* i C, mewn mathemateg a naill ai Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2014.

5. Yn galw ar y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed o ran gwella gwasanaethau dysfforia rhywedd yng Nghymru, ac yn galw am astudiaeth dichonolrwydd annibynnol i sefydlu clinig hunaniaeth rhywedd yng Nghymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud at recriwtio dienw yn y sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl fel bod pobl yn cael eu barnu ar eu gallu gwirioneddol i wneud swydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

10.

Cyfnod pleidleisio

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.43

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: