Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.14 |
|||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyhoeddi Adroddiad Flynn Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am
14.29 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Cyflwyniad i'r Bil Casglu a Rheoli Trethi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.04 |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2015-2016 NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30,
yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd
Mawrth, 23 Mehefin 2015. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth
ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran
125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar
gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â
hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer
cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn
y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu
i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu
talu o'r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran
125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol
Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r
Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn
a'r rhai blaenorol. Dogfen Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.37 Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5798
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol
Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac
a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 23 Mehefin 2015. Troednodyn: Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i)
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru; (ii)
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii)
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv)
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig; a (v)
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c). Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: -
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||
(45 munud) |
Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 NDM5813 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gofal a
Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2015. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.09 Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5813
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau
Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn
drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2015. Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) NDM5814 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio ac
Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) Gosodwyd Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol
(Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23 Chwefror 2015. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
ar Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar
3 Gorffennaf 2015. Dogfennau
Ategol Bil
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.57 NDM5814
Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol
(Cymru) Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Dadl ar Benderfyniad Ariannol y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) NDM5815 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion
unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal
Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y
cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.56 NDM5815
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at
ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Rheoleiddio ac Arolygu
Gofal Cymdeithasol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y
cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil. Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.56 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |