Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau
heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 3, 5 a
6 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau
heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 7
eu grwpio. Atebwyd cwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd Kirsty Williams bwynt o drefn o dan Reol
Sefydlog 12.16 (viii) yn gofyn am
eglurhad ynghylch gwybodaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog mewn ateb yn ystod y
Cwestiynau i’r Prif Weinidog ar 17 Mawrth. Dyfarnodd y Llywydd nad oedd hyn yn
bwynt o drefn ond gwahoddodd y Prif Weinidog i ymateb. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM5712 Mick Antoniw (Pontypridd) Jocelyn Davies (Dwyrain De
Cymru) Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf
hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi: a)
bod hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7; b)
y gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan
gyfrannu at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol; c)
bod adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl
rhag dod yn gaeth i hapchwarae; d)
bod y twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi
troi hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; a e)
bod amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol
ac iechyd sy'n deillio o hapchwarae; b)
ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu
peiriannau hapchwarae; ac c) ymgysylltu â'r diwydiant hapchwarae a'r Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn cael ei wario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn gaeth i hapchwarae. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.01 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5712 Mick Antoniw (Pontypridd) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
cydnabod bod technoleg ar-lein ynghyd â hysbysebu dwys wedi ysgogi twf
hapchwarae yng Nghymru ac yn nodi: a) bod
hapchware ar gael i holl boblogaeth Cymru 24/7; b) y
gall hapchwarae ddod yn gaethiwed sy'n niweidiol yn gymdeithasol, gan gyfrannu
at dlodi, iechyd a phroblemau cymdeithasol; c) bod
adnabod caethiwed a darparu cymorth yn gynnar yn hanfodol er mwyn atal pobl
rhag dod yn gaeth i hapchwarae; d) bod y
twf mewn hapchwarae ar-lein a pheiriannau hapchwarae ods sefydlog wedi troi
hapchwarae yn y DU i mewn i ddiwydiant gwerth biliynau o bunnoedd; ac e) bod
amgylchedd rheoleiddio hapchwarae yn gymharol ysgafn. 2. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
datblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael â'r canlyniadau cymdeithasol
ac iechyd sy'n deillio o hapchwarae; b)
ymgysylltu â Llywodraeth y DU i drafod datganoli rhagor o bwerau dros drwyddedu
peiriannau hapchwarae; ac c) ymgysylltu â'r diwydiant hapchwarae a'r
Ymddiriedolaeth Hapchwarae Cyfrifol i sicrhau bod cyfran briodol o'r cyllid yn
cael ei gwario yng Nghymru i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â bod yn
gaeth i hapchwarae. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Derbyniwyd
y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5728
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Aled
Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r penderfyniad diweddar gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i atal gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad
meddygon ymgynghorol a gwasanaethau clinigol eraill i fenywod yn Ysbyty Glan
Clwyd; a 2. Yn galw ar y bwrdd iechyd i sicrhau parhad
gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaethau
clinigol eraill i fenywod ym mhob un o'r tri o ysbytai cyffredinol dosbarth yng
ngogledd Cymru. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a
rhoi yn ei le: 2. Yn nodi mai
ataliad dros dro yw hwn ac y bydd gwasanaethau o dan arweiniad meddygon
ymgynghorol yn cael eu hadfer o fewn 12 mis; 3. Yn nodi y bydd
y SuRNICC yn cael ei lleoli yn Ysbyty Glan Clwyd fel rhan o ddarpariaeth y
bwrdd iechyd o wasanaethau mamolaeth yn y Gogledd sy'n glinigol ddiogel ac yn
gynaliadwy. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.58 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5728 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r penderfyniad diweddar gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i atal gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad
meddygon ymgynghorol a gwasanaethau clinigol eraill i fenywod yn Ysbyty Glan
Clwyd; a 2. Yn galw ar y bwrdd iechyd i sicrhau parhad
gwasanaethau mamolaeth o dan arweiniad meddygon ymgynghorol a gwasanaethau
clinigol eraill i fenywod ym mhob un o'r tri o ysbytai cyffredinol dosbarth yng
ngogledd Cymru.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru NDM5727
Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru yn byw
o dan y llinell dlodi. 2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad addysgol
isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau difreintiedig. 3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant,
cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl
ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr. 4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru
yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. 5. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng y
Democratiaid Rhyddfrydol a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant
Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan
bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc. 6. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r bywyd y
maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb
i bawb. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i bob
plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol; b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar
gyfer athrawon a sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru; c) diwygio'r fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o ffocws
yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion; d) yn canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc i
roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r safon
uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 5 newydd
ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi'r cynnydd
a ragwelir yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU
erbyn 2020 ac yn nodi hefyd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y
cynnydd mewn lefelau tlodi plant. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 5. Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Yn is-bwynt 7b),
dileu 'sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru' a rhoi yn ei le
'sicrhau ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r ddarpariaeth newydd o addysg
gychwynnol i athrawon'. Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu isbwynt
newydd ar ddiwedd y cynnnig: sichrau bod
ysgolion yn dangos tystiolaeth eu bod yn defnyddio'r grant amddifadedd
disgyblion i helpu disgyblion o gartrefi incwm isel. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.02 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5727 Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru
yn byw o dan y llinell dlodi. 2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad
addysgol isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau
difreintiedig. 3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant,
cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl
ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr. 4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng
Nghymru yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. 5. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant
Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan
bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc. 6. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r
bywyd y maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau
cydraddoldeb i bawb. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i
bob plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol; b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol
parhaus ar gyfer athrawon a sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru; c) diwygio fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o
ffocws yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion; d) canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc
i roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r
safon uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 5 newydd
ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi'r cynnydd a
ragwelir yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU erbyn
2020 ac yn nodi hefyd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cynnydd
mewn lefelau tlodi plant. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 5. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Yn is-bwynt 7b), dileu
'sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru' a rhoi yn ei le 'sicrhau
ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r ddarpariaeth newydd o addysg
gychwynnol i athrawon'. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: sicrhau bod ysgolion yn
dangos tystiolaeth eu bod yn defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i helpu
disgyblion o gartrefi incwm isel. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5727 Aled Roberts (Gogledd
Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru
yn byw o dan y llinell dlodi. 2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad
addysgol isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau
difreintiedig. 3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant,
cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl
ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr. 4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng
Nghymru yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. 5. Yn nodi'r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant
sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU erbyn 2020 ac yn nodi hefyd
effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cynnydd mewn lefelau tlodi plant. 6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant
Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan
bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc. 7. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r
bywyd y maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau
cydraddoldeb i bawb. 8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i
bob plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol; b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol
parhaus ar gyfer athrawon a sicrhau ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r
ddarpariaeth newydd o addysg gychwynnol i athrawon; c) diwygio fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o
ffocws yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion; d) canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc
i roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r
safon uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt. f) sicrhau bod ysgolion yn dangos tystiolaeth eu
bod yn defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i helpu disgyblion o gartrefi
incwm isel
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.57 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - Gohiriwyd NDM5726
Leanne Wood (Canol De Cymru): Darparu difidend datganoli ar gyfer Cymru gyfan Manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n deillio o
ddatganoli i wneud yn siŵr bod yr holl wlad yn elwa arnynt. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |