Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5 a 9 gan y
Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a’r Dirprwy Wenidog Ffermio a
Bwyd ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.18 Gofynnwyd cwestiynau 1 - 11 ac 14 - 15. Trosglwyddwyd cwestiwn 12 i’w
ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth.
Tynnwyd cwestiwn 13 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 15.04 Kirsty
Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad brys am amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfer mis
Hydref sy’n dangos mai dim ond 55.5% o ymatebion brys i alwadau categori A (bygythiad
difrifol i fywyd) a gyrhaeddodd y safle o fewn wyth munud? EAQ(4)0524(HSS) |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes ar Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) NDM5637
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei
Ymchwiliad i Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2014. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 19
Tachwedd 2014. Dogfennau
Ategol Adroddiad
y Pwyllgor Menter a Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.18 NDM5637 William Graham
(Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Sgiliau
Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Medi 2014. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Cyfnod 1 ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) NDM5628
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a
Chynhwysiant Ariannol (Cymru) Gosodwyd y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) a'r
Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 15 Gorffennaf 2014. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ar y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14
Tachwedd 2014. Dogfennau
Ategol Bil
Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) Adroddiad
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.00 NDM5628 Bethan Jenkins
(Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol
(Cymru) Gosodwyd y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 15 Gorffennaf 2014. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil
Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 14 Tachwedd 2014. Tynnwyd y cynnig yn ôl yn unol
â Rheol Sefydlog 12.27 |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5638
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd adeiladau crefyddol Cymru i
dreftadaeth genedlaethol Cymru. 2. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ffydd a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a'r gydnabyddiaeth bod gan adeiladau crefyddol
rôl o ran denu ymwelwyr i Gymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau
ffydd a rhanddeiliaid eraill i greu cofrestr o adeiladau crefyddol pwysicaf
Cymru fel y gallant gael eu diogelu'n briodol ar gyfer y dyfodol. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a gweithredu
strategaeth integredig i hyrwyddo llwybrau twristiaeth ffydd megis y Ffordd
Sistersaidd a denu mwy o ymwelwyr i fannau addoli yng Nghymru. 1. Gwelliant
2 - Elin Jones (Ceredigion) Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pwysigrwydd
adeiladau crefyddol yn cael ei ymgorffori o fewn y Bil Treftadaeth. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.46 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5638 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd adeiladau crefyddol Cymru i dreftadaeth
genedlaethol Cymru. 2. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth Ffydd a gyhoeddwyd
gan Lywodraeth Cymru, a'r gydnabyddiaeth bod gan adeiladau crefyddol rôl o ran
denu ymwelwyr i Gymru. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chymunedau ffydd a
rhanddeiliaid eraill i greu cofrestr o adeiladau crefyddol pwysicaf Cymru fel y
gallant gael eu diogelu'n briodol ar gyfer y dyfodol.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.46 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5635
Nick Ramsay (Mynwy) Cŵn Tywys Cymru: rhyddid i symud i bobl ddall a
rhannol ddall yng Nghymru. I godi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cŵn Tywys
Cymru yng Nghymru a cheisio barn Llywodraeth Cymru ynghylch beth arall y gellir
ei wneud i gefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.47 NDM5635 Nick Ramsay (Mynwy) Cŵn Tywys Cymru: rhyddid
i symud i bobl ddall a rhannol ddall yng Nghymru. I godi ymwybyddiaeth ynghylch
gwasanaethau Cŵn Tywys Cymru yng Nghymru a cheisio barn Llywodraeth Cymru
ynghylch beth arall y gellir ei wneud i gefnogi pobl sydd wedi colli eu golwg. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - Gohiriwyd o 19 Tachwedd 2014 NDM5629
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Pobl hŷn a gwaith: cydnabod cyfraniad pobl hŷn
yn y gweithlu ledled Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.07 NDM5629
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Pobl hŷn a gwaith: cydnabod cyfraniad pobl hŷn
yn y gweithlu ledled Cymru. |
|||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|