Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd

Cyhoeddodd y Llywydd fod y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2014, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

  

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13:30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:17

 

Cynigion i ethol aelodau i bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 14:38.

Cafodd y cynigion eu grwpio i’w trafod, a phleidleisiwyd arnynt gyda’i gilydd.

NDM5566 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Nick Ramsay (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig).

 

NDM5567 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jane Hutt (Llafur) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Lesley Griffiths (Llafur).

 

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

3.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon: Adnewyddu’r Polisi Newid yn yr Hinsawdd - Gohiriwyd

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Dysgu o Adolygiadau o Nodiadau Achos Marwolaethdeb

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:38

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Camau gan y Sector Tai i Fynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Cham-drin Domestig

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:16

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Bathodyn Glas – y wybodaeth ddiweddaraf

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:43

 

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth: Y Chweched Fforwm Cydlyniant

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:13

 

(15 munud)

8.

Rheoliadau (Gweithdrefnau a Ffioedd) Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014

 

NDM5561 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2014.

 

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.47

NDM5561 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2014.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

 

(15 munud)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Dadreoleiddio: Diwygiadau mewn perthynas â Phedolwyr a Chytundebau Cartref-Ysgol

NDM5525 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n ymwneud â Phedolwyr a Chytundebau cartref-ysgol i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Gellir cael copi o'r Bil Dadreoleiddio yma:
Dogfennau'r Bil – Bil Dadreoleiddio [HC] 2013-14 – Senedd y DU

 

Dogfennau Ategol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 3)

Adroddiad Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  

Ymateb y Llywodraeth i Adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

NDM5525 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Dadreoleiddio, sy'n ymwneud â Phedolwyr a Chytundebau cartref-ysgol i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

7

48

Derbyniwyd y cynnig.

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 16.58

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: