Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
Tynnwyd cwestiwn 15 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 14.35 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Wyddoniaeth Cymru Dogfennau
Ategol Adroddiad Elsevier - Cymhariaeth Ryngwladol o Berfformiad
Sylfaen Ymchwil Cymru 2013’ (Saesneg
yn unig) Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.39 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Gwella Gofal Sylfaenol a Chymunedol NDM5515
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i wella a pharhau
i integreiddio gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol yng
Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cyllid ychwanegol y cytunwyd arno gan
Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer y
Gronfa Gofal Canolraddol yng nghyllideb 2014/15. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn
gwelliannau i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a fyddai wedi rhoi
terfyn ar yr arfer rheolaidd o slotiau gofal 15 munud ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gymryd camau i roi terfyn ar yr arfer hwn. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ynghylch yr
angen am fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, sef yr hyn a
nodir yn eu hymgyrch Patients First: Back General Practice. Gwelliant
4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella trefniadau cynllunio’r
gweithlu gofal sylfaenol ac i weithredu ar frys i roi sylw i’r heriau sy’n
gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu ledled Cymru. Gwelliant
5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith y bydd toriadau termau real
Llywodraeth Cymru i gyllideb y GIG yn ei gwneud yn fwy anodd sicrhau
gwelliannau ac integreiddio gofal sylfaenol, gofal yn y gymuned a gofal
cymdeithasol ymhellach yng Nghymru. Gwelliant
6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod mwy a mwy o feddygon teulu yn nesáu at oed
ymddeol, yn enwedig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yn gresynu at y
ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cynllun clir i gael meddygon
teulu newydd yn eu lle. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5515 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u
cymryd i wella a pharhau i integreiddio gofal sylfaenol, gofal cymunedol a
gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r cyllid ychwanegol y cytunwyd arno gan Ddemocratiaid
Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Gofal
Canolraddol yng nghyllideb 2014/15. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn gwelliannau i'r
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a fyddai wedi rhoi terfyn ar yr arfer
rheolaidd o slotiau gofal 15 munud ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd
camau i roi terfyn ar yr arfer hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ynghylch yr angen am
fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, sef yr hyn a nodir yn
eu hymgyrch Patients First: Back General Practice. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella trefniadau cynllunio’r gweithlu gofal
sylfaenol ac i weithredu ar frys i roi sylw i’r heriau sy’n gysylltiedig â
recriwtio meddygon teulu ledled Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith y bydd toriadau termau real Llywodraeth Cymru i
gyllideb y GIG yn ei gwneud yn fwy anodd sicrhau gwelliannau ac integreiddio gofal
sylfaenol, gofal yn y gymuned a gofal cymdeithasol ymhellach yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod mwy a mwy o feddygon teulu yn nesáu at oed ymddeol, yn enwedig
yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yn gresynu at y ffaith nad yw
Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cynllun clir i gael meddygon teulu newydd yn
eu lle. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5515 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i
wella a pharhau i integreiddio gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal
cymdeithasol yng Nghymru. 2. Yn croesawu'r cyllid ychwanegol y cytunwyd
arno gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar
gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol yng nghyllideb 2014/15. 3. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol y Meddygon
Teulu ynghylch yr angen am fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau gofal
sylfaenol, sef yr hyn a nodir yn eu hymgyrch Patients First: Back General
Practice. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella
trefniadau cynllunio’r gweithlu gofal sylfaenol ac i weithredu ar frys i roi
sylw i’r heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu ledled Cymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Llywodraethu Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru NDM5516
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru i
amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru. 2. Yn nodi’r
adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau llywodraethu ar gyfer tirweddau
dynodedig yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol Cymru at ein
treftadaeth ac yn cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn hybu
hunaniaeth unigryw Cymru. Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn credu y byddai mwy o atebolrwydd democrataidd yn arwain at
wella’r modd y mae’r parciau cenedlaethol yn cael eu llywodraethu ac yn
gwella’r berthynas rhwng awdurdodau’r parciau a’r trefi a’r cymunedau sydd o
fewn eu ffiniau. Gwelliant
3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r argymhellion yn ymwneud â pharciau cenedlaethol yn
yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau
Cyhoeddus ac yn credu bod angen rhoi pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau ar waith
cyn gynted ag y bo modd. Mae adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/dpsp/publications/psgd/140120-psgd-full-report-cyv2.pdf Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.03 NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru
i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru. 2. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau llywodraethu ar
gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny: Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol Cymru at ein treftadaeth ac yn
cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn hybu hunaniaeth unigryw Cymru. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â
hynny: Yn credu y byddai mwy o atebolrwydd democrataidd yn arwain at wella’r modd
y mae’r parciau cenedlaethol yn cael eu llywodraethu ac yn gwella’r berthynas
rhwng awdurdodau’r parciau a’r trefi a’r cymunedau sydd o fewn eu ffiniau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r argymhellion yn ymwneud â pharciau cenedlaethol yn yr adroddiad
a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ac
yn credu bod angen rhoi pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau ar waith cyn gynted ag
y bo modd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol
Cymru at ein treftadaeth ac yn cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn
hybu hunaniaeth unigryw Cymru. 2. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru
i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru. 3. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau
llywodraethu ar gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.43 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol:
|