Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd y cafodd Deddf Addysg Bellach ac Uwch
(Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) 2014, Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd
Gwladol (Cymru) 2014 a Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 Gydsyniad Brenhinol
ar 27 Ionawr 2014. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 10 eu
grwpio. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.02 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd ar Wella Caffael Cyhoeddus - gohiriwyd |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adolygiad Annibynnol o Gydnerthedd Ffermio Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.11 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Trafnidiaeth Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.50 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i newid y drefn y caiff gwelliannau Cyfnod 3 i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) eu trafod NDM5414
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn
cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol: a)adrannau
2-76 b)atodlen
1 c)adrannau
77 -133 d)atodlen
2 e)adrannau
134-169 f)atodlen
3 g)adrannau
170 – 183 h)adran
1 i)Teitl
Hir Penderfyniad: Dechreuodd yr
eitem am 16.21 NDM5414
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn
cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol: a)adrannau
2-76 b)atodlen
1 c)adrannau
77 -133 d)atodlen
2 e)adrannau
134-169 f)atodlen
3 g)adrannau
170 – 183 h)adran
1 i)Teitl
Hir Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Adroddiad y Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus NDM5412
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus Gallwch
weld yr Adroddiad drwy ddilyn y ddolen isod: http://wales.gov.uk/topics/improvingservices/public-service-governance-and-delivery/report/?lang=cy Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
ar ddechrau’r cynnig ac ail-rifo yn unol â hynny: 1. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer ymateb i’r argymhellion yn
Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a 2. Os
bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio’r
canlynol: a)
swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol newydd; b)
system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau yn yr
ardaloedd hynny; c) y
nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob cynghorydd yn yr ardaloedd hynny. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r
dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad y Comisiwn am yr angen i leihau
cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cadarnhau y dylai unrhyw
newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella canlyniadau ar gyfer ein
dinasyddion. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
argymhelliad yr adroddiad i gychwyn y broses o integreiddio iechyd a gofal
cymdeithasol, ac yn gresynu na roddwyd ystyriaeth lawn i uno'r gwasanaethau
hyn. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol, yna y dylai
gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y cynghorwyr. Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio ar gyfer etholiadau cynghorau yn rhan o
gylch gorchwyl Comisiwn Williams ond yn credu mai gweithredu Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy fyddai'r dull mwyaf priodol o ethol nifer llai o gynghorwyr. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio yn rhan o gylch gorchwyl Comisiwn
Williams ac yn credu y dylai unrhyw ad-drefnu ar lywodraeth leol gynyddu
atebolrwydd drwy gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau
cynghorau, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Sunderland, ac fel sy’n digwydd ar
hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.22 NDM5412
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi
Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
ar ddechrau’r cynnig ac ail-rifo yn unol â hynny: 1. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer ymateb i’r argymhellion yn
Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a 2. Os
bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio’r
canlynol: a)
swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol newydd; b)
system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau yn yr
ardaloedd hynny; c) y
nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob cynghorydd yn yr ardaloedd hynny. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad y Comisiwn am yr angen i
leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cadarnhau y dylai unrhyw
newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella canlyniadau ar gyfer ein
dinasyddion. Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
argymhelliad yr adroddiad i gychwyn y broses o integreiddio iechyd a gofal
cymdeithasol, ac yn gresynu na roddwyd ystyriaeth lawn i uno'r gwasanaethau
hyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol, yna y dylai
gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y cynghorwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi
nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio ar gyfer etholiadau cynghorau yn rhan o
gylch gorchwyl Comisiwn Williams ond yn credu mai gweithredu Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy fyddai'r dull mwyaf priodol o ethol nifer llai o gynghorwyr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio yn rhan o gylch
gorchwyl Comisiwn Williams ac yn credu y dylai unrhyw ad-drefnu ar lywodraeth
leol gynyddu atebolrwydd drwy gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer
etholiadau cynghorau, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Sunderland, ac fel sy’n
digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5412
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer
ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu
Gwasanaethau Cyhoeddus, a 2. Os bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y
Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddiffinio’r canlynol: a) swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau
lleol newydd; b) system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r
ddarpariaeth o wasanaethau yn yr ardaloedd hynny; c) y nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob
cynghorydd yn yr ardaloedd hynny. 3. Yn nodi Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a
Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus. 4. Yn croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad
y Comisiwn am yr angen i leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn
cadarnhau y dylai unrhyw newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella
canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion. 5. Yn credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr
awdurdodau lleol, yna y dylai gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y
cynghorwyr.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am
17.15 Cafodd y cyfarfod ei
ohirio a’i ail-gynnull am 17.20 ar gyfer y Cyfnod Pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |