Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Teyrngedau i Nelson Mandela Dechreuodd yr eitem am 13.30 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar
Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.48 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.34 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: PISA 2012 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.43 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y llifogydd diweddar yng ngogledd Cymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.18 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Dŵr NDM5303
Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai
Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau'r Bil Dŵr fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 27 Mehefin 2013, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Medi 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). I weld
copi o’r Bil ewch i: Bill
documents – Water Bill [HC] 2013-14 – UK Parliament Dogfen Ategol Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Y
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Adroddiad ar y Bil Dŵr Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.01 NDM5303 Alun Davies (Blaenau
Gwent) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai
Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau'r Bil Dŵr fel y'i cyflwynwyd yn
Nhŷ'r Cyffredin ar 27 Mehefin 2013, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Medi 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2014-15 NDM5382
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25: Yn
cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 3 Rhagfyr 2013. Troednodyn: Yn unol
â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28,
mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: 1. y
datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru; 2. yr
adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; 3.
cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig; 4.
cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa
yn y cynnig; a 5.
cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf
a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan
adran 125(1)(c). Darparwyd
yr wybodaeth atodol ganlynol i’r Aelodau: • Nodyn
Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb
Flynyddol. Dogfen
Ategol Adroddiad
ar Waith Craffu’r Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar
gyfer 2014-15 Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.08 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon
tan y cyfnod pleidleisio. NDM5382
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25: Yn cymeradwyo'r
Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-2015 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ar 3 Rhagfyr 2013. Troednodyn: Yn unol
â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28,
mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: 1. y
datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru; 2. yr
adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; 3.
cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig; 4.
cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr
Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa
yn y cynnig; a 5.
cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf
a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan
adran 125(1)(c). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy NDM5381
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i
nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu
Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi
gyda phryder y sylwadau a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o
ddatblygu cynaliadwy, a bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu
presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy” o hyd. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu
“’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i
nodir yn”. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth ddatblygu dyfodol
cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o Addysg ar gyfer
Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei ffocws a chanfod
gwelliannau. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
gresynu at y gostyngiad yn lefelau caffael bwyd lleol y sector cyhoeddus, nad
oedd y strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’ bresennol yn addas i'r diben ac
yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun labelu cynhwysfawr ar gyfer bwyd
a diod o Gymru. Mae
‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru – Strategaeth Fwyd i Gymru’ ar gael yn: http://wales.gov.uk/docs/drah/publications/101207foodforwalesfoodfromwalescy.pdf Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini
sydd â phrofiad ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys
mewn partneriaethau cyflawni. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen Lywodraethu
yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru. Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwadau
ar yr adroddiad. Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o
strwythur a chynnwys yr adroddiad. Gwelliant
9 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r
pwyntiau a godwyd gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog
ymgysylltu â phob plaid a'r gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer
y Bil hwn. Dogfen Ategol Adroddiad
Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.56 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM5381
Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i
nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu
Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi
gyda phryder y sylwadau a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o
ddatblygu cynaliadwy, a bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu
presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy” o hyd. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu
“’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i
nodir yn”. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol
Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio
yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant
3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth ddatblygu dyfodol
cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o Addysg ar gyfer
Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei ffocws a chanfod
gwelliannau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu
at y gostyngiad yn lefelau caffael bwyd lleol y sector cyhoeddus, nad oedd y
strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’ bresennol yn addas i'r diben ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun labelu cynhwysfawr ar gyfer bwyd a
diod o Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini
sydd â phrofiad ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys
mewn partneriaethau cyflawni. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen
Lywodraethu yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant
7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei
sylwadau ar yr adroddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Derbyniwyd gwelliant 7. Gwelliant
8 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
cydnabod pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o
strwythur a chynnwys yr adroddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant
9. William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw
am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau
a godwyd gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â
phob plaid a'r gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Derbyniwyd gwelliant 9. Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5381 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi gyda phryder y sylwadau
a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y Comisiynydd Dyfodol
Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy, a
bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu presennol ar gyfer
datblygu cynaliadwy” o hyd. 2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran
hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn Adroddiad Blynyddol
Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013. 3. Yn cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth
ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei
ffocws a chanfod gwelliannau. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini sydd â phrofiad
ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys mewn
partneriaethau cyflawni. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen Lywodraethu yn gysylltiedig
â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru. 6. Yn cydnabod y cyfraniad a wnaed
gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwadau ar yr adroddiad. 7. Yn cydnabod pryderon parhaus y
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr
adroddiad. 8. Yn galw am Fil Cenedlaethau’r
Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau a godwyd gan y
Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â phob plaid a'r
gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r
gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent
yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Mae’r gwelliannau wedi cael eu
grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn: 1.
Microsglodynnu 1,2,3 2. Gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw 4 3.
Costau a dynnir gan drydydd part ï on 9,10 4.
Person penodedig ar gyfer anghydfod 6, 7 5.
Canllawiau 5, 8 Dogfennau Ategol Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.26 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r
gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent
yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a
byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn: 1.
Microsglodynnu 1,2,3 2. Gwaredu ceffylau sydd wedi eu cadw 4 3.
Costau a dynnir gan drydydd part ï on 9,10 4.
Person penodedig ar gyfer anghydfod 6, 7 5.
Canllawiau 5, 8 Cynhaliwyd y bleidlais yn y drefn a nodir yn y Rhestr o
Welliannau wedi’u Didoli. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant. Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant 9 Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gan fod gwelliant 9 wedi’i wrthod, methodd gwelliant
10. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant 6 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7 Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y
Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly,
gwrthodwyd y gwelliant. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn
y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â
thrafodion Cyfnod 3 i ben. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog
gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 18.31 Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog
gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol
Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 18.43 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |