Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Yn ogystal, cyflwynodd y Dirprwy Lywydd Rhun ap Iorwerth i’r Cynulliad cyn Cwestiwn 11.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.18

Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor

Dechreuodd yr eitem am 14.37

NDM5308 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Busnes yn lle Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynlluniau Newid Gwasanaethau Hywel Dda

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.37

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Datblygu'r Sector Bwyd yng Nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.33

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Arfer Gorau mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad ar Ymweliadau’r Haf ag Awdurdodau Lleol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.14

(15 munud)

6.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas ag adennill meddiant o dai annedd

NDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2013.

I weld copi o’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona ewch i:

http://services.parliament.uk/bills/2013-14/antisocialbehaviourcrimeandpolicingbill/documents.html

Dogfennau Ategol

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud ag adennill meddiant tai annedd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.39

NDM5248 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud ag adennill meddiant o dai annedd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol

NDM5253 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Dogfennau’r Bil – Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2013-14 – Gwefan Senedd y DU

Dogfennau Ategol
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.52

NDM5253 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â’r Fframwaith ar gyfer rheolaethau ar gyllid cyfalaf a geir yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru

NDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

I weld copi o’r Bil ewch i:

Dogfennau’r Bil – Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2013-14 – Gwefan Senedd y DU

Dogfennau Ategol

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â rheolaethau ariannol ar brif gwnstabliaid yng Nghymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.03

NDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â chyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau a diwygiadau i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991

NDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2013.

I weld copi o’r Bil ewch i:

Dogfennau’r Bil – Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona 2013-14 – Gwefan Senedd y DU

Dogfennau Ategol
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau yn ymwneud â hysbysiadau amddiffyn cymunedol, gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus, hysbysiadau cau a diwygiadau i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991

 



Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.08

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5249 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â chyflwyno Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau, a diwygio Deddf Cwn Peryglus 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

1

9

55

Derbyniwyd y cynnig.

 

(60 munud)

10.

Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

NDM5300 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru).

Gosodwyd y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 29 Ebril 2013.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 19 Gorffennaf 2013.

Dogfennau Ategol
Y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.26

NDM5300 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

11.

Penderfyniad Ariannol mewn perthynas â'r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

NDM5301 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.07

NDM5301 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69 sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.07

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: