Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4 a 9 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.15 Gofynnwyd y 3 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.24 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2
a 4 i 9. Tynnwyd cwestiynnau
3 a 10 yn ôl. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (Darren Millar) NNDM5258
Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.91: Yn cytuno
y caiff Darren Millar gyflwyno
Bil er mwyn
gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd
ar 18 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog
26.90. Mae’r wybodaeth
cyn y balot ar gael drwy
fynd i: http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill-050.htm Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.10 NNDM5258 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
26.91: Yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Bil er
mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 18 Ebrill 2013 o dan Reol Sefydlog
26.90. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM5268
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr angen am strategaeth
hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru. 2.
Yn cydnabod ymhellach gynigion Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd, a amlinellir yn y cyhoeddiad, ‘Glasbrint ar gyfer Maes
Awyr Caerdydd’. Mae
Glasbrint ar gyfer Maes Awyr
Caerdydd ar gael drwy'r
linc a ganlyn: https://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/cardiff_airport_blueprint_cymraeg.pdf Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector
cyhoeddus. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Strategaeth Hedfan i Gymru erbyn diwedd 2013, gan
gynnwys amserlen ar gyfer gweithredu. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am
ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel
yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno
cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu
strategaeth hedfan nesaf Cymru. Gellir
gweld adroddiad Rhan I Comisiwn Silk drwy ddilyn y linc ganlynol: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd
yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn
ddiweddar. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym,
hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan
Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ailddatgan ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 15.46 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5268
William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr angen am strategaeth
hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru. 2.
Yn cydnabod ymhellach gynigion Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Maes
Awyr Caerdydd, a amlinellir yn
y cyhoeddiad, ‘Glasbrint ar gyfer Maes
Awyr Caerdydd’.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Elin
Jones (Ceredigion) Dileu
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd wedi'u hwyluso gan y sector
cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am
ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar gyfer teithiau pell i Gymru, fel yr
argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn Silk, a bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno
cynigion ar gyfer cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er mwyn ategu
strategaeth hedfan nesaf Cymru. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd
yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu Maes Awyr Caerdydd yn
ddiweddar. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym,
hirddisgwyliedig, o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a addawyd yn gyntaf gan
Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan
ei hymrwymiad i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis Awst 2013. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5268 William
Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr angen am strategaeth
hedfan gynhwysfawr a chydlynol yng Nghymru. 2.
Yn cefnogi'r datblygiadau i Faes Awyr Caerdydd sydd
wedi'u hwyluso gan y sector cyhoeddus. 3.
Yn galw am ddatganoli cyfraddau'r Doll Teithwyr Awyr ar
gyfer teithiau pell i Gymru, fel
yr argymhellwyd yn rhan 1 Comisiwn
Silk, a bod Llywodraeth Cymru
yn cyflwyno cynigion ar gyfer
cyfraddau Toll Teithwyr Awyr i Gymru er
mwyn ategu strategaeth hedfan nesaf Cymru. 4.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i esbonio rôl a threfn
lywodraethu Tasglu Maes Awyr Caerdydd
yng ngoleuni’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi prynu
Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddar. 5.
Yn croesawu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwasanaeth bws cyflym, hirddisgwyliedig,
o Gaerdydd i Faes Awyr Caerdydd, a
addawyd yn gyntaf gan Lywodraeth
Cymru ym mis Gorffennaf 2009, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad
i gyflwyno’r gwasanaeth hwn ym mis
Awst 2013.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM5269 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi rôl
allweddol y system gynllunio
o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn
adlewyrchu'n well egwyddorion
datblygu cynaliadwy, yn arbennig: a)
bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu
anghenion tai lleol yn well; b)
bod yr iaith Gymraeg yn dod
yn ystyriaeth gynllunio fwy ystyrlon;
ac c) bod y
system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd yn
well. Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno Bil
Cynllunio i Gymru. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cydnabod y gall y cyfrifoldeb ar y cyd am bolisïau
cynllunio, tai ac adfywio rhwng y Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol
achosi llawer o densiwn a’i gwneud yn anodd i ddatblygu polisïau cynllunio ac
adfywio cydlynol mewn ardaloedd gwledig. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2a): i. drwy ddisodli’r targedau adeiladu tai a osodwyd gan
Lywodraeth Cymru ag asesiad o anghenion tai lleol; a ii. drwy gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i gynyddu
nifer y cartrefi i ddiwallu anghenion poblogaeth gynyddol a phoblogaeth sy’n
heneiddio; Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Rhaid i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn ymgynghoriadau
ystyrlon sy’n galluogi cymunedau i gael eu grymuso er mwyn llunio eu dyfodol. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn cyflwyno canllawiau cynllunio ychwanegol ar gyfer
gwaith datblygu ac adnewyddu mewn ardaloedd cadwraeth. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod rôl bwysig cynghorau tref a chymuned fel ymgyngoreion
statudol yn y broses gynllunio ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i asesu ffyrdd o
gryfhau’r rôl hon, er mwyn cryfhau llais cynghorau tref a chymuned. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu system i adolygu
Nodiadau Cyngor Technegol yn gyfnodol, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r
datblygiadau diweddaraf mewn polisïau a deddfwriaeth a’r datblygiadau
technolegol diweddaraf. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 16.48 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM5269
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi rôl
allweddol y system gynllunio
o ran cyfrannu tuag at gynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; a 2.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r system gynllunio fel ei bod yn
adlewyrchu'n well egwyddorion
datblygu cynaliadwy, yn arbennig: a) bod Cynlluniau Datblygu Lleol yn adlewyrchu
anghenion tai lleol yn well; b)
bod yr iaith
Gymraeg yn dod yn ystyriaeth
gynllunio fwy ystyrlon; ac c)
bod y system gynllunio'n hwyluso twf gwyrdd
yn well.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 17.46 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM5267 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r
Parth Clustogi glo brig yn addas
at y diben? Dadl sy'n
trafod y problemau sydd wedi codi
ers i'r parth
clustogi gael
ei gyflwyno yn MTAN2 yn 2009, gan drafod a ydyw
mewn gwirionedd wedi cyflawni diogelwch
i gymunedau sy'n byw gyda chloddio
glo brig. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.50 NDM5267
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw'r
Parth Clustogi glo brig yn addas
at y diben? Dadl sy'n
trafod y problemau sydd wedi codi
ers i'r parth
clustogi gael
ei gyflwyno yn MTAN2 yn 2009, gan drafod a ydyw
mewn gwirionedd wedi cyflawni diogelwch
i gymunedau sy'n byw gyda chloddio
glo brig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |