Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 5 eu grwpio. Gwahoddodd y Diprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5, 7 a 9 i 11. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 8.

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu

Dogfen Ategol
Datganiad ar y Rhaglen Lywodraethu – Ar gael yn Saesneg yn unig

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

Pwynt o Drefn

Cododd Andrew RT Davies, Arweinydd yr Wrthblaid, bwynt o drefn yn gofyn am benderfyniad ar y dogfennau a oedd wedi’u rhoi i Aelodau mewn perthynas â’r Datganiad ar yr Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu, yn enwedig yr Atodiad i’r Rhaglen Lywodraethu a oedd ond wedi’i roi ar-lein i Aelodau yn hwyrach.

Penderfynodd y Dirprwy Lywydd fod disgwyl i ddogfennau y cyfeirir atynt mewn datganiadau fod ar gael i Aelodau ac, oherwydd bod amheuaeth ynghylch beth oedd wedi’i roi y prynhawn yma, cytunodd i adolygu Cofnod y Trafodion a dychwelyd at y mater pe bai o’r farn bod angen penderfyniad pellach.

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio ac ymateb i’r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.15

(60 munud)

6.

Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol y Bil Teithio Llesol (Cymru)

NDM5251 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Teithio Llesol (Cymru)

Gosodwyd y Bil Teithio Llesol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Chwefror 2013.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar y Bil Teithio Llesol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 24 Mai 2013.

Dogfennau Ategol
Bil Teithio Llesol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

NDM5251 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Teithio Llesol (Cymru)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

7.

Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Teithio Llesol

NDM5252 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Teithio Llesol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.46

NDM5252 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Teithio Llesol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Cyfnod pleidleisio

Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.

 

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: