Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Teyrngedau er cof am y Farwnes Thatcher

Dechreuodd yr eitem am 13:30

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Gweld y cwestiynau

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.44

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiynau Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.32

Cwestiwn Brys 1

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr achosion presennol o’r frech goch yn ne-orllewin Cymru?

Dechreuodd yr eitem am 14.41

Cwestiwn Brys 2

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r effaith ar y diwydiant amaeth o gau safle prosesu cig Vion ar Ynys Môn?

Dechreuodd yr eitem am 14.50

Cwestiwn Brys 3

Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i helpu ffermwyr defaid yr ucheldir yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddar gan y tywydd oer difrifol?

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.08

(30 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Maes Awyr Caerdydd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.18

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Gyrfa Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.46

5.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd - i’w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig

6.

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013 - Gohiriwyd

(15 munud)

7.

Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013

NDM5201 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2013.

Dogfennau Ategol:
Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 – Saesneg yn unig
Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.21

NDM5201 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Theuluoedd

NDM5164 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Plant a Theuluoedd, sy'n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Plant 1989 (adran 31A (4A)) ac adrannau 125 i 131 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol:
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/childrenandfamilies.html
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad ar y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.27

NDM5164 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Plant a Theuluoedd, sy'n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Plant 1989 (adran 31A (4A)) ac adrannau 125 i 131 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

9.

Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

NDM5197 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

Gosodwyd y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 26 Tachwedd 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymundeau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 21 Mawrth 2013.

Dogfennau Ategol:
Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Adroddiad y  Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

NDM5197 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

10.

Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

NDM5198 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.22

NDM5198 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(90 munud)

11.

Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

NDM5199 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Gosodwyd y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 25 Mawrth 2013.

Dogfennau Ategol :
Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Adroddiad Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5199 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

5

9

55

Derbyniwyd y cynnig.

(5 munud)

12.

Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

NDM5200 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Trawsplannu Dynol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5200 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

4

10

55

Derbyniwyd y cynnig.

Cynnig i ethol Aelod a Chadeirydd i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 18.47

NDM5207 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:

1. Gwyn Price (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mak Drakeford (Llafur Cymru), a;

2. Vaughan Gething (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18.48

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: