Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Tynnodd y Llywydd sylw’r Aelodau at anerchiad Ei Mawrhydi y Frenhines
ar Ddiwrnod y Gymanwlad, ddydd Llun 11 Mawrth. Caiff ei gyhoeddi fel rhan
o Gofnod y Trafodion. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.16 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Canfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) NDM5184 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 yn cael ei
lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror
2013. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.29 NDM5184 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau
Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 yn cael ei
lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror
2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Adroddiad Guilford ar y Trefniadau ar gyfer Gweithredu Rhaglenni Ewropeaidd 2014-2020 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.34 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Rhagor o Brentisiaethau yng Nghymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.09 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid: Fframwaith Adfywio Newydd i Gymru Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.48 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Adroddiad Diweddaru ar Hwyluso'r Drefn - Ehangu Busnes y Fferm Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.34 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 NDM5183 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Ystadegau
Swyddogol (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2013. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.11 NDM5183 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn
cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 yn
cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Chwefror 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Ansawdd yn GIG Cymru - sicrhau dysgu o Adroddiad Francis NDM5182 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad terfynol yr
Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac y
bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Ymchwiliad Francis i helpu i ddod o hyd i
ffordd well eto o ddarparu gofal diogel a thosturiol yng Nghymru. Gellir dod o hyd i adroddiad terfynol yr Ymchwiliad
Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford (Adroddiad
Francis) drwy ddilyn y ddolen hon: http://www.midstaffspublicinquiry.com/report Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu popeth ar ôl ‘Swydd Stafford’. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r pryderon difrifol a gododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn
dilyn yr arolygiadau urddas a gofal hanfodol a gynhaliwyd yn ein hysbytai. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) gweithredu argymhellion Adroddiad Francis sy’n berthnasol i’n GIG ni; (b) ystyried creu gwefan “fyYsbytylleol” tebyg i wefan “fyYsgolleol” i
sicrhau bod pob ysbyty'n darparu gwybodaeth hygyrch a thryloyw am berfformiad;
ac (c) cyflwyno deddfwriaeth i wneud methiant i ddarparu adroddiad cywir am yr
amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth claf yn drosedd. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y potensial i bwysau ariannol yn y GIG yng Nghymru danseilio’r
awydd i ddarparu gofal diogel a thosturiol. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r pryderon a fynegwyd yn adroddiad Ymchwiliad Cyhoeddus
Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Canol Swydd Stafford o ran lefelau staffio, ac a) yn gresynu bod pryderon ynghylch cywirdeb a chysondeb data ar lefelau
staffio hefyd wedi’u canfod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad
diweddar ar Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru (Chwefror 2013); b) yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol
i sicrhau nad yw staff sy’n absennol am gyfnod hir, neu wedi eu hatal o’u
gwaith, yn cael eu cynnwys mewn rotas staffio yn y dyfodol oni ddisgwylir
iddynt ddychwelyd i’w gwaith yn fuan iawn. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Hanfodion Gofal 2003
i sicrhau bod y safonau’n parhau i adlewyrchu arfer gorau o ran gofal o fewn
GIG Cymru fel y’i nodwyd gan y rhai sydd angen gofal, gofalwyr a staff.’ Gellir gweld yr Hanfodion Gofal drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.wales.nhs.uk/documents/booklet-e.pdf Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd
Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion, ac Iawn) (Cymru) 2011 i gynnwys
gofyniad i’r hyn a ddysgir o ganlyniad i gwynion gael ei nodi, ei ledaenu a’i
roi ar waith yn effeithiol gan roi gwybod i’r achwynydd ac i’r cyhoedd. Gellir gweld Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon,
Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 drwy ddilyn y linc a ganlyn: http://www.wales.nhs.uk/sites3/docmetadata.cfm?orgid=932&id=170726&pid=50738 Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.22 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5182 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad terfynol yr
Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac y
bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Ymchwiliad Francis i helpu i ddod o hyd i
ffordd well eto o ddarparu gofal diogel a thosturiol yng Nghymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu popeth ar ôl
‘Swydd Stafford’. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r pryderon
difrifol a gododd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dilyn yr arolygiadau urddas
a gofal hanfodol a gynhaliwyd yn ein hysbytai. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: (a) gweithredu
argymhellion Adroddiad Francis sy’n berthnasol i’n GIG ni; (b) ystyried creu
gwefan “fyYsbytylleol” tebyg i wefan “fyYsgolleol” i sicrhau bod pob ysbyty'n
darparu gwybodaeth hygyrch a thryloyw am berfformiad; ac (c) cyflwyno
deddfwriaeth i wneud methiant i ddarparu adroddiad cywir am yr amgylchiadau a
arweiniodd at farwolaeth claf yn drosedd. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y
potensial i bwysau ariannol yn y GIG yng Nghymru danseilio’r awydd i ddarparu
gofal diogel a thosturiol. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r pryderon a fynegwyd
yn adroddiad Ymchwiliad Cyhoeddus Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Canol Swydd
Stafford o ran lefelau staffio, ac a) yn gresynu bod
pryderon ynghylch cywirdeb a chysondeb data ar lefelau staffio hefyd wedi’u
canfod gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad diweddar ar
Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru (Chwefror 2013); b) yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i fyrddau iechyd lleol i sicrhau nad yw
staff sy’n absennol am gyfnod hir, neu wedi eu hatal o’u gwaith, yn cael eu
cynnwys mewn rotas staffio yn y dyfodol oni ddisgwylir iddynt ddychwelyd i’w
gwaith yn fuan iawn. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Hanfodion Gofal 2003
i sicrhau bod y safonau’n parhau i adlewyrchu arfer gorau o ran gofal o fewn
GIG Cymru fel y’i nodwyd gan y rhai sydd angen gofal, gofalwyr a staff.’ Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant
7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Rhoi pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddiwygio Rheoliadau’r Gwasanaethau Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon,
Cwynion, ac Iawn) (Cymru) 2011 i gynnwys gofyniad i’r hyn a ddysgir o
ganlyniad i gwynion gael ei nodi, ei ledaenu a’i roi ar waith yn effeithiol gan
roi gwybod i’r achwynydd ac i’r cyhoedd. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5182 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad terfynol yr
Ymchwiliad Cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford ac y
bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Ymchwiliad Francis i helpu i ddod o hyd i ffordd
well eto o ddarparu gofal diogel a thosturiol yng Nghymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o Hanfodion Gofal 2003
i sicrhau bod y safonau’n parhau i adlewyrchu arfer gorau o ran gofal o fewn
GIG Cymru fel y’i nodwyd gan y rhai sydd angen gofal, gofalwyr a staff.’
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr
eitem am 18.03 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleileisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |