Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Cydymdeimlodd y Llywydd ar ran y Cynulliad â Gwenda Thomas AC yn ei phrofedigaeth o golli ei gŵr. |
||||||||||
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y
Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif
Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd
y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||
Pwynt o drefn Cododd Arweinydd
yr Wrthblaid, Andrew R.T.
Davies, bwynt o drefn yn ceisio dyfarniad
ynghylch a oedd y sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog
mewn trefn pan ddywedodd nad oedd
Andrew R.T. Davies wedi bod yn
gwbl onest â’r Siambr wrth
gyfeirio at ffigurau allforio masnach. Cytunodd y Llywydd i edrych ar Gofnod
y Trafodion a dod
yn ôl at y mater os y bydd hi o’r
farn bod angen dyfarniad. |
||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.32 |
|||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 14.49 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen TB mewn Gwartheg Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 15.30 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau: Ymateb y Llywodraeth i'r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 16.17 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Y camau nesaf yn y gwaith o ddiwygio'r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin Penderfyniad: Dechreuodd
yr eitem am 17.02 |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ddarparu data electronig i gwsmeriaid NDM5139 Edwina Hart (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil
Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a
gwasanaethau yn darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o
gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.40 NDM5139 Edwina Hart (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a
Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn
darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio - Diddymu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil
Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol
Cymru a Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y
Cynulliad Cenedlaethol. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.44 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a
Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a
Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad
Cenedlaethol. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil
Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhy’r Cyffredin ar 13 Medi
2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau pensiwn
newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. NDM5055 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil
Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar
13 Medi 2012 sy’n ymwneud â’r cyfyngiadau sydd i’w cymhwyso i’r cynlluniau
pensiwn newydd ar gyfer cyrff cyhoeddus, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 NDM5154 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau
Trwyddedu Amgylcheddol(Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r
fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2013. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 18.34 NDM5154 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau
Trwyddedu Amgylcheddol(Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol
â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2013. Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 18.36 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |