Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.29

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddarparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.43

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Menter

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.13

Cynnig i atal Rheol Sefydlog 11.16, 12.20(i) a 27.7 i ganiatáu i'r ddwy eitem nesaf o fusnes gael eu trafod (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 15.45

NDM5153 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

 

Yn atal Rheol Sefydlog 11.16, Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 27.7 er mwyn caniatáu i NNDM5151 ac NNDM5152 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 22 Ionawr 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gan bleidleisio arnynt ar wahân.

(15 munud)

5.

Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013

NNDM5151 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2013.

 

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 – Saesneg yn unig
Memorandwnm Esboniadol
– Saesneg yn unig

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.46

 

NNDM5151 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

6.

Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2013

NNDM5152 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2013.

Dogfennau Ategol

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2013Saesneg yn unig
Memorandwm EsboniadolSaesneg yn unig

Penderfyniad:

NNDM5152 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

7.

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012

NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Gynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  21 Rhagfyr 2012.

Dogfennau Ategol
Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dim pwyntiau adrodd
 

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.10

NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Gynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren a Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  21 Rhagfyr 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(90 munud)

8.

Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1.Hysbysu am sgoriau hylendid bwyd a'u cyhoeddi

12, 1, 13, 2, 14, 3

2.Cyhoeddi sgoriau hylendid bwyd ar ddeunydd hyrwyddo

9, 21, 22, 10, 23, 11, 25, 5, 8

3. Y gofyniad i arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd lluosog

4, 7

4. Troseddau

24, 26, 27

5. Dyletswyddau yr Asiantaeth Safonau Bwyd

15, 16, 17, 18, 19

6. Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig

6

7.Diwygio cyfnodau i gydymffurfio â dyletswyddau
20

Dogfennau Ategol

Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau





Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.17

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

 

1.Hysbysu am sgoriau hylendid bwyd a'u cyhoeddi

12, 1, 13, 2, 14, 3

2.Cyhoeddi sgoriau hylendid bwyd ar ddeunydd hyrwyddo

9, 21, 22, 10, 23, 11, 25, 5, 8

3. Y gofyniad i arddangos sticeri sgôr hylendid bwyd lluosog

4, 7

4. Troseddau

24, 26, 27

5. Dyletswyddau yr Asiantaeth Safonau Bwyd

15, 16, 17, 18, 19

6. Y defnydd o dderbyniadau cosb benodedig

6

7.Diwygio cyfnodau i gydymffurfio â dyletswyddau

20

 

Cynhaliwyd y pleidleisiau yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:

Tynnwyd gwelliant 12 yn ôl.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ni chynigwyd gwelliant 13.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, methodd gwelliant 14.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

For

Abstain

Against

Total

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 9.

Gan fod gwelliant 9 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 10 ac 11.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 21:

For

Abstain

Against

Total

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 21.

Gan fod gwelliant 21 wedi’i wrthod, methodd gwelliannau 22, 23 a 25.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 24:

For

Abstain

Against

Total

21

0

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 24.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 26:

For

Abstain

Against

Total

21

0

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 26.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 27:

For

Abstain

Against

Total

21

0

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 27.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

For

Abstain

Against

Total

52

0

0

52

Derbyniwyd gwelliant 5.

Tynnwyd gwelliant 15 yn ôl.

Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 20:

For

Abstain

Against

Total

26

0

27

53

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.

(5 munud)

9.

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru).

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig.

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.20

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

10.

Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn

NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2011-12, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2013.

Gellir gweld yr adroddiad drwy glicio ar y ddolen hon:

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=242061&ds=1/2013

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agosach gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (Cam 3).

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dulliau clir o fonitro urddas a gofal i bobl hyn o ganlyniad i ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’.

Gellir gweld y safonau drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.nhswalesgovernance.com/display/Home.aspx?a=130&s=2&m=0&d=0&p=0

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’ i ddatblygu gwasanaeth eirioli cadarn ac annibynnol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Gellir gweld yr adroddiad drwy ddilyn y linc a ganlyn:

http://www.olderpeoplewales.com/wl/news/news/12-09-18/Voice_Choice_and_Control.aspx

 

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.31

NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2011-12, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2013.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agosach gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (Cam 3).

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dulliau clir o fonitro urddas a gofal i bobl hŷn o ganlyniad i ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’ i ddatblygu gwasanaeth eirioli cadarn ac annibynnol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5141 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2011-12, y gosodwyd copi ohono yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2013.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agosach gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i ddatblygu’r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (Cam 3).

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu dulliau clir o fonitro urddas a gofal i bobl hŷn o ganlyniad i ‘Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Cymru’.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad ‘Llais, Dewis a Rheolaeth’ i ddatblygu gwasanaeth eirioli cadarn ac annibynnol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cyfnod Pleidleisio

 

Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: