Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd: Cydsyniad Brenhinol - Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

 

Cyhoeddodd y Llywydd fod Cydsyniad Brenhinol wedi cael ei roi i Ddeddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 ar 29 Tachwedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.75.

 

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 7 a 9 i 15. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.27

 

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gyflwyno'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.46

 

(15 munud)

5.

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012

NDM5110 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol



 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

 

NDM5110 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

6.

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

NDM5111 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

Gosodwyd Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2012.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2012.

Dogfennau Ategol

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifron Cyhoeddus
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol



Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

NDM5111 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

Gosodwyd y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

7.

Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

NDM5112 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.22

NDM5112 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

8.

Dadl ar y Gyllideb Flynyddol

NDM5109 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 27 Tachwedd 2012.

Troednodyn:

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

1. Y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

2. Yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

3. Cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

4. Cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

5. Cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i’r Aelodau:

·         Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Flynyddol.

Dogfennau Ategol

Y Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014
Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Flynyddol

Papur Ymchwil: Cyllideb Derfynol 2013-14 – Y Gwasanaeth Ymchwil

 




Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5109 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:

Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 27 Tachwedd 2012.

Troednodyn:

Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

1. Y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

2. Yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

3. Cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;

4. Cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r Gronfa yn y cynnig; a

5. Cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i’r Aelodau:

·         Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Flynyddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

7

18

50

Derbyniwyd y cynnig.

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.17

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: