Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Datganiad gan y Llywydd: Cydsyniad Brenhinol - Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.

Cyhoeddodd y Llywydd y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 ar 12 Tachwedd. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar Gomisiwn y Cynulliad i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

 

Cyfeiriodd y Llywydd hefyd at y ffaith bod hwn yn achlysur hanesyddol gan mai hon oedd y Ddeddf Cynulliad gyntaf i gael Cydsyniad Brenhinol.

 

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 
Gweld y cwestiynau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13:30

 

Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14:22

 

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl y Fforwm Clinigol Cenedlaethol yn ad-drefnu’r GIG yng NghymruEAQ(4)0191(HSS)

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:29

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – adroddiad cynnydd chwe mis – gohiriwyd o 6 Tachwedd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:44

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun “Gwella Ysgolion”, a gyhoeddwyd ar 10 Hydref 2012

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:19

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Newydd i Adolygu Ymarfer Plant – Diogelu ac Amddiffyn Plant yn Well

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:56

 

(120 muned)

6.

Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14

NDM5087 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

 

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty ar 2 Hydref 2012.

 

Dogfennau Ategol

Mae'r Cynigion yngylch Cyllideb Ddrafft 2013-14 ar gael drwy'r linc a ganlyn:

 

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=238895&ds=10/2012

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid  

 

Papur Ymchwil: Cynigion y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 – Y Gwasanaeth Ymchwil

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 fel ei bod:

a) yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i doriadau mewn termau real o £493 miliwn dros dair blynedd;

b) yn diwallu anghenion busnesau yng Nghymru, sy’n hanfodol wrth greu cyflogaeth;

c) yn cau’r bwlch cyllido rhwng disgyblion ysgol yng Nghymru a Lloegr; a

d) yn sicrhau darpariaeth i liniaru’r codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yng Nghymru lle mae’r esgid ariannol yn gwasgu.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y bwlch mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr a fydd yn gwaethygu oherwydd na lwyddwyd i gynyddu’n sylweddol y Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2013/14.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r Gyllideb Ddrafft yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg mynediad at driniaethau arloesol yn y GIG.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:24

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 fel ei bod:

a) yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i doriadau mewn termau real o £493 miliwn dros dair blynedd;

b) yn diwallu anghenion busnesau yng Nghymru, sy’n hanfodol wrth greu cyflogaeth;

c) yn cau’r bwlch cyllido rhwng disgyblion ysgol yng Nghymru a Lloegr; a

d) yn sicrhau darpariaeth i liniaru’r codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yng Nghymru lle mae’r esgid ariannol yn gwasgu.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

10

32

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y bwlch mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr a fydd yn gwaethygu oherwydd na lwyddwyd i gynyddu’n sylweddol y Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2013/14.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

21

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r Gyllideb Ddrafft yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg mynediad at driniaethau arloesol yn y GIG.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

10

26

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:


NDM5087 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

 

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 2 Hydref 2012.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

10

16

53

Derbyniwyd y cynnig

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 18:01

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: