Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13:30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 ac
8 i 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem
am 14:18 Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am
gais Comisiynydd Plant Cymru i lansio ymchwiliad newydd i gam-drin plant mewn
cartrefi gofal yng ngogledd Cymru. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:28 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-Drefnu Addysg Uwch Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14:41 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb i adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:06 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – Adroddiad Cynnydd Chwe Mis – gohiriwyd tan 13 Tachwedd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Wyddoniaeth - gohiriwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio Personau
Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau Ategol
Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:40
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio
Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy'n ymwneud â'r Banc Buddsoddi Gwyrdd NDM5040 Edwina Hart (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio
Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y”BBG”), i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Dogfennau Ategol I weld copi o’r Bil ewch i: Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:47 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio
sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y ”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o
fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ymgynghoriad ar Bolisi Adfywio yn y Dyfodol NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn
'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’. Mae’r ymgynghoriad ar gael drwy fynd i’r ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?lang=cy Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r polisi adfywio yn y dyfodol yn cyfeirio’n ystyrlon at
Orllewin Cymru o gwbl. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau
llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd
trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwneud unrhyw
fuddsoddiad yn y sector preifat yng Nghymru. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r ymgynghoriad ar y fframwaith adfywio newydd yn cynnig
unrhyw dargedau y mae modd eu mesur. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi adfywio yn y dyfodol yn
mynd i'r afael â'r diffyg cysylltiad rhwng ardaloedd menter Llywodraeth Cymru
a’i seilwaith trafnidiaeth. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion
penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl
bosibl ‘timau trefi’. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15:53 NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn
'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r polisi adfywio yn y dyfodol yn cyfeirio’n ystyrlon at
Orllewin Cymru o gwbl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau
llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd
trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwneud unrhyw
fuddsoddiad yn y sector preifat yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw’r ymgynghoriad ar y fframwaith adfywio newydd yn cynnig
unrhyw dargedau y mae modd eu mesur. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi adfywio yn y dyfodol yn mynd
i'r afael â'r diffyg cysylltiad rhwng ardaloedd menter Llywodraeth Cymru a’i
seilwaith trafnidiaeth. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion
penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl
bosibl ‘timau trefi’. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant
6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn
'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’. Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau
llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd
trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion
penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl
bosibl ‘timau trefi’.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng
Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru
2011-12’. Mae copi o’r adroddiad ar gael yn: http://www.equalityhumanrights.com/hafan/cymru/cyhoeddiadau-yng-nghymru/sicrhau-agenda-gydraddoldeb-a-hawliau-dynol-gref-adolygiad-cymru-2011-12 Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er
mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a
throseddau casineb anabledd. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru
mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn
Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16:30 NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng
Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er
mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a
throseddau casineb anabledd. Derbyniwyd gwelliant
1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru
mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon. Derbyniwyd gwelliant
2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn
Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU. Derbyniwyd gwelliant
3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng
Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru
2011-12’. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er
mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a
throseddau casineb anabledd. Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru
mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon. Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn
Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag
anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU. Derbyniwyd y
cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 17:02 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |