Agenda a Phenderfyniadau
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ethol Dirprwy Lywydd dros dro Cafodd Rhodri Glyn Thomas ei ethol yn Ddirprwy Lywydd dros
dro. |
||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 i 11 a
chwestiynau 13 a 15. Tynnwyd cwestiynau 12 ac 14 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar
ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 14.19 Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan. |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem
am 14.41 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Canlyniadau Ymgynghoriad Cynnal Cymru Fyw Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 14.55 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i “Adolygu Ardrethi Busnes Cymru: Cymell Twf” Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 15.29 |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.02 |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) NNDM5065 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau
sy’n deillio o Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn
gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o
ganlyniad i’r Bil. Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron
y Cynulliad ar 28 Mai 2012. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.49 NNDM5065 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at
ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru),
yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol
Sefydlog 26.69(ii) sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Gosodwyd Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) a’r
Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 28 Mai 2012. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) NDM5070 Leighton Andrews (Rhondda) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru). Gosodwyd Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 23 Ebrill 2012. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Fil Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 12 Hydref 2012. Dogfennau Ategol Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 16.50 NDM5070 Leighton Andrews (Rhondda) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru). Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) NDM5071 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau
sy’n deillio o Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.39 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau
sy’n deillio o Fil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii) sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y
cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar y Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol NDM5069 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: Nodi Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru, sy’n gwireddu ymrwymiad a
wnaed gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 ac sy’n nodi dyheadau Llywodraeth
Cymru o dan y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru
sydd ar gael i’w fwynhau yn awr a chan genedlaethau’r dyfodol ac sy’n cael ei
ddiogelu’n dda.
Mewnosod fel pwynt 1 newydd: Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb
pwysig i economi Cymru. Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) TYNNWYD YN ôL Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys
y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd
sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y Gweinidog i gydnabod mai’r ffordd orau y gall Comisiwn Brenhinol
Henebion Cymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’i strategaeth yw drwy aros yn
annibynnol. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y Gweinidog i ystyried y manteision a’r anfanteision sy’n
gysylltiedig â CADW yn mynd yn fwy annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Penderfyniad: Dechreuodd yr eitem am 17.40 Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Mewnosod fel pwynt 1 newydd: Nodi y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb
pwysig i economi Cymru. Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys
y mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl. Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu. Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Cydnabod rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd
sector wrth warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol. Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. Gohiriwyd y bleidlais ar weddill
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio. Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y Gweinidog i gydnabod mai’r ffordd orau y gall Comisiwn Brenhinol
Henebion Cymru gynorthwyo Llywodraeth Cymru gyda’i strategaeth yw drwy aros yn
annibynnol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
Gwrthodwyd gwelliant
6. Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Galw ar y Gweinidog
i ystyried y manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â CADW yn mynd yn
fwy annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant
7. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM5069 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: 1.
Nodi
y gall hyrwyddo a rheoli ein hamgylchedd hanesyddol yn ofalus roi hwb pwysig i
economi Cymru. 2.
Nodi
Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru, sy’n gwireddu ymrwymiad a wnaed gan
Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2012 ac sy’n nodi dyheadau Llywodraeth Cymru o
dan y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu amgylchedd hanesyddol yng Nghymru sydd ar
gael i’w fwynhau yn awr a chan genedlaethau’r dyfodol ac sy’n cael ei
ddiogelu’n dda. 3.
Galw
ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Cynlluniau Gweithredu unigol yn cynnwys y
mesurau o lwyddiant cyn gynted â phosibl. 4.
Galw
ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ar y Prif Gynllun Gweithredu. 5.
Cydnabod
rôl werthfawr y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector wrth
warchod a hyrwyddo ein hamgylchedd hanesyddol.
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am 18.26 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
Cofnod y Trafodion Dogfennau ategol: |