Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30.

 

Gofynnwyd y 13 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.32.

 

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymchwiliad Robert Powell

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.49.

 

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:20

 

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-drefnu Addysg Uwch yn ne-ddwyrain Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:09

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Remploy

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:53

 

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17:21

 

(30 munud)

8.

Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Trydanu

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18:00

 

9.

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 - Gohirwyd tan 18 Gorffennaf

NDM5038 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012
Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig

 

10.

Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012 - Gohirwyd tan 18 Gorffennaf

NDM4988 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Dileu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus 2012 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2012.

Dogfen Ategol
Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu Arolygiaeth Gweinyddiaeth Llysoedd Ei Mawrhydi a Bwrdd y Gwarcheidwad Cyhoeddus) 2012
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol  

11.

Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 - Gohirwyd tan 18 Gorffennaf

NDM5037 Jane Hutt (Bro Morgannwg):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2012.

Dogfennau Atgol
Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012  
Memorandwm Esboniadol

 

 

(30 munud)

12.

Dadl ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2012-13

NDM5026 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2012.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau ategol:
Gyllideb Atodol 2012-13
Papur Ymchwil: Cyllideb Atodol 2012-13 (Mehefin 2012) – Y Gwasanaeth Ymchwil
Addroddiad Y Pwyllgor Cyllid Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol ar gyfer 2012–2013 (Haf 2012)

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 18:37

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5026 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth, 26 Mehefin 2012.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

22

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 19:09.

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: