Dechreuodd yr eitem am 17:24
NDM5009 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau a gymerwyd hyd yma i wella gofal iechyd y llygaid; a
2. Yn cydnabod bod
yna fwy o waith i’w wneud ac y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun yn
amlinellu ei hymrwymiad i wella gofal iechyd y llygaid ar gyfer pobl Cymru
ymhellach fel rhan o raglen iechyd y cyhoedd ehangach.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu
‘camau a gymerwyd hyd yma’ a rhoi
‘datblygiadau a wireddwyd gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd
sector’ yn ei le.
Derbyniwyd
gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill
y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ym mhwynt
2, dileu popeth ar ôl ‘i'w
wneud,’ a rhoi'r canlynol yn ei
le:
‘ac y bydd
hyn yn ei
gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gydlynu rhaglen
iechyd y cyhoedd ehangach a fydd yn ymgorffori newidiadau
mewn prosesau monitro a chasglu data, sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi
cynlluniau gwasanaethau a gwaith hybu iechyd
y llygaid mwy gwybodus’.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid
|
Ymatal
|
Yn
erbyn
|
Cyfanswm
|
43
|
0
|
9
|
52
|
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn cydnabod y cynnydd sy’n deillio
o Strategaeth Olwg Cymru, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau gofal llygaid yn y dyfodol
yn cysylltu â'r gwaith hwn
ac yn adeiladu arno.
http://www.vision2020uk.org.uk/ukvisionstrategy/page.asp?section=134§ionTitle=Wales+Vision+Strategy
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid
|
Ymatal
|
Yn
erbyn
|
Cyfanswm
|
52
|
0
|
0
|
52
|
Derbyniwyd gwelliant
3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru
a oedd yn
fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain
beryglu’r broses o weithredu’r
cynllun gofal iechyd llygaid.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid
|
Ymatal
|
Yn
erbyn
|
Cyfanswm
|
12
|
0
|
40
|
52
|
Gwrthodwyd gwelliant
4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r
gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn achosion o golli golwg y mae
modd eu hosgoi
yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd
y cyhoedd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 5:
O blaid
|
Ymatal
|
Yn
erbyn
|
Cyfanswm
|
52
|
0
|
0
|
52
|
Derbyniwyd gwelliant
5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynllun gofal llygaid
sy’n cael ei gyhoeddi yn
sicrhau bod pob plentyn pedair a phum mlwydd oed
yng Nghymru yn cael profion
golwg yn yr ysgol.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
O blaid
|
Ymatal
|
Yn
erbyn
|
Cyfanswm
|
52
|
0
|
0
|
52
|
Derbyniwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i fynd i’r afael â chasgliadau ymchwil sy’n awgrymu
bod strwythur a chyfeiriad canfyddedig optometreg o ran gwerthu sbectolau yn annog y gymuned
i ystyried bod profion llygaid (a gynhelir mewn siopau) yn
wahanol i gamau gwarchod iechyd sylfaenol eraill.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 7:
O blaid
|
Ymatal
|
Yn
erbyn
|
Cyfanswm
|
26
|
0
|
27
|
53
|
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog
6.20, defnyddiodd y Dirprwy
Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5009 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r
datblygiadau a wireddwyd gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd
sector i wella gofal iechyd y llygaid;
2. Yn cydnabod
bod yna fwy o waith i’w wneud
ac y bydd hyn yn ei gwneud
yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gydlynu rhaglen iechyd y cyhoedd ehangach a fydd yn ymgorffori newidiadau
mewn prosesau monitro a chasglu data, sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi
cynlluniau gwasanaethau a gwaith hybu iechyd
y llygaid mwy gwybodus;
3. Yn cydnabod y cynnydd sy’n deillio o Strategaeth Olwg Cymru, ac yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau gofal llygaid yn y dyfodol
yn cysylltu â'r gwaith hwn
ac yn adeiladu arno;
4. Yn croesawu'r
gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn achosion o golli golwg y mae
modd eu hosgoi
yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd
y cyhoedd yng Nghymru; a
5. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynllun gofal llygaid sy’n
cael ei gyhoeddi
yn sicrhau bod pob plentyn pedair
a phum mlwydd oed yng Nghymru
yn cael profion
golwg yn yr ysgol
O blaid
|
Ymatal
|
Yn erbyn
|
Cyfanswm
|
52
|
0
|
0
|
52
|
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.