Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13:30

 

Gofynnwyd cwestiynau 1 – 4 a 6 – 15. Cafodd cwestiwn 5 ei drosglwyddo i’w ateb yn ysgrifenedig.  Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:16

 

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:29

 

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Cynhwysiant Digidol / Cymunedau 2.0

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:27

 

(60 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno Bil Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:00

 

(15 munud)

6.

Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012

NDM4995 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012
Memorandwm Esboniadol – (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol




 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:36

NDM4995 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Iechyd Meddwl (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

(15 munud)

7.

Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012

NDM4996 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012
Memorandwm Esboniadol – (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:39

NDM4996 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mai 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

(60 munud)

8.

Dadl ar Jiwbilî Ddiemwnt Ei Mawrhydi'r Frenhines

NDM4997 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn llongyfarch Ei Mawrhydi’r Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Ddiemwnt ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 60 mlynedd ddiwethaf.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

‘, gan gydnabod cyfraniad anferth Ei Mawrhydi’r Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol at y sectorau elusennol a gwirfoddol yma yng Nghymru’

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:45

NDM4997 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn llongyfarch Ei Mawrhydi’r Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Ddiemwnt ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 60 mlynedd diwethaf.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:

‘, gan gydnabod cyfraniad anferth Ei Mawrhydi’r Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol at y sectorau elusennol a gwirfoddol yma yng Nghymru’.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4997 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn llongyfarch Ei Mawrhydi’r Frenhines ar achlysur ei Jiwbilî Ddiemwnt ac yn talu teyrnged i’w chefnogaeth ddiwyro i Gymru dros y 60 mlynedd diwethaf, gan gydnabod cyfraniad anferth Ei Mawrhydi’r Frenhines ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol at y sectorau elusennol a gwirfoddol yma yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig, wedi’i ddiwygio,  yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Pwynt o Drefn

Cododd y Prif Weinidog bwynt o drefn ynghylch sylwadau a wnaeth Andrew RT Davies yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog, pan gyfeiriodd at y Prif Weinidog felgelyn cleifion canser yng Nghymru”.”

 

Tynnodd Andrew RT Davies ei sylwadau yn ôl ac eglurodd fod ei sylwadau wedi’u cyfeirio at bolisi’r llywodraeth ac nad eu bwriad oedd peri tramgwydd personol i’r Prif Weinidog.

 

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: