Agenda a Phenderfyniadau

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(60 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13:30.

 

Gofynnwyd y 15 cwestiwn.  Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:22.

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Tâl rhanbarthol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:27.

(30 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Tai Gwag

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15:05.

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Blaenoriaethau cyllido’r UE ar gyfer y dyfodol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.53

(15 munud)

6.

Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012

NDM4975 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - dim pwyntiau adrodd

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.28

 

NDM4975 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 

 

(15 munud)

7.

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012

NDM4976 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012

Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - dim pwyntiau adrodd

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

 

NDM4976 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

(15 munud)

8.

Cynnig Cydsyniad ar Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012

NDM4932 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2012.

 

Dogfennau Ategol:

Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012 (Saesneg yn unig)

Dogfen Esboniadol i Orchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012 (Saesneg yn unig)

Memorandwm Cydsyniad - Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

 

NDM4932 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2012, yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mawrth 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog

 

Dechreuodd yr eitem am 16.47

 

NNDM4980 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

 

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i’r cynnig o dan yr eitem olaf o fusnes (NDM4979) i gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth, 8 Mai 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(5 munud)

9.

Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Llafar

NDM4979 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Llafar’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mai 2012; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A o Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

Dogfen Ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

 

NDM4979 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor BusnesDiwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Llafar’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mai 2012; a

 

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12, fel y nodir yn Atodiad A o Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 

 

Cyfnod Pleidleisio

Cofnod y Trafodion

Dogfennau ategol: