Cyfarfodydd

P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

·         Hwyluso’r cyswllt rhwng y deisebwyr a swyddogion perthnasol yn CADW a Chyngor Sir Gwynedd;

·         Ysgrifennu at bob Aelod yng Ngogledd Cymru yn tynnu eu sylw at y ddeiseb; a

·         chau’r ddeiseb.    

 


Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at yr awdurdod lleol a CADW yn gofyn a fyddent yn barod i gwrdd â’r deisebwyr i drafod pa gyfleoedd pellach a allai fod ar gael i fwrw ymlaen â’r cysyniad o Ganolfan Treftadaeth yng Nghaernarfon; ac
  • ysgrifennu at Gyngor Tref Caernarfon yn gofyn am eu barn ar y ddeiseb. 

 

 


Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac

·         Chyngor Gwynedd

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb.