Cyfarfodydd

P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/06/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar ôl i'r Gweinidog nodi nad yw o'r farn bod angen ystyried datblygu cynllun cyflawni cenedlaethol ar hyn o bryd.

 


Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:

 

  • i aros am sylwadau pellach gan y prif ddeisebydd; ac
  • i geisio ymateb gan y Gweinidog ar y ffaith ei bod yn ymddangos bod pob un o'r Byrddau Iechyd Lleol sydd wedi ymateb hyd yn hyn yn cefnogi cynllun Gastroenteroleg Cymru gyfan, sef rhywbeth yr ymddengus nad yw'r Gweinidog yn ei gefnogi.

 

 


Cyfarfod: 17/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a

·         phob Bwrdd Iechyd Lleol

 

i ofyn eu barn am y ddeiseb.