Cyfarfodydd
P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 13/09/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 16 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 25.08.2016. Gohebiaeth – Iechyd Cyhoeddus Lloegr (Public Health England) at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 119 KB
- 31.08.2016. Gohebiaeth - y Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 28 KB Gweld fel HTML (3/3) 13 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Simon Mann, Pennaeth Adran Dosimetreg
Ymbelydredd y Ganolfan Peryglon Ymbelydredd, Cemegolion a Pheryglon Amgylcheddol
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 16 KB Gweld fel HTML (4/1) 10 KB
- 21.03.2016 Gohebiaeth - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 104 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu at Ganolfan Ymbelydredd, Cemegion a
Pheryglon Amgylcheddol Iechyd Cyhoeddus Lloegr i ofyn pa gamau y maent wedi’u
cymryd ar ôl cael gwybodaeth a anfonwyd atynt gan y Gweinidog ar gais y
Pwyllgor blaenorol.
Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 16 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 15.07.2015 Gohebiaeth – y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 182 KB
- 07.01.2016 Gohebiaeth - y Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 23 KB Gweld fel HTML (3/3) 8 KB
- Gwybodaeth ategol gan y deisebydd, Eitem 3 PDF 2 MB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon
sylwadau'r deisebwyr, ynghyd â deunydd ychwanegol a ddarparwyd, at y Gweinidog
a gofyn iddi eu rhannu â PHE-CRCE, cyn penderfynu a ddylid cau'r ddeiseb.
Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5 PDF 26 KB Gweld fel HTML (5/1) 10 KB
- 15.01.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 5 PDF 2 MB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, fel y cytunwyd yn flaenorol,
penderfynodd ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
ofyn ei farn ar:
·
y
dystiolaeth a’r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol gan OFCOM; ac
·
a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar gyfer
Ymbelydredd, Peryglon Cemegol ac Amgylcheddol yn ystyried tystiolaeth o Gymru o
ran darparu cyngor i Lywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 26 KB Gweld fel HTML (2/1) 10 KB
- 04.10.2014 Gohebiaeth – gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 2 MB
- 08.09.2014 Gohebiaeth - OFCOM I’r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 26 KB Gweld fel HTML (2/3) 4 KB
- 14.10.2014 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 128 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
Ysgrifennu
at y deisebydd yn gofyn iddo ddarparu tystiolaeth gryno a chadarn a adolygir
gan gymheiriaid er mwyn dangos yr angen am ymchwiliad; ac
·
Unwaith y
bydd ymateb y deisebydd wedi dod i law, ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn gofyn am ei farn am y dystiolaeth a’r wybodaeth a
ddarparwyd gan OFCOM ac a yw Canolfan Iechyd y Cyhoedd Lloegr ar Beryglon
Ymbelydrol, Cemegol ac Amgylcheddol (PHE-CRCE) yn ystyried tystiolaeth o Gymru
o ran rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion.
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at:
·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac
·
OFcom
i ofyn eu barn am y ddeiseb ac, yn achos OFCOM, i weld a oeddent yn
ymwybodol o unrhyw waith ymchwil diweddar i’r mater hwn.