Cyfarfodydd
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 24 KB Gweld fel HTML (4/1) 10 KB
- 15.03.2016 Gohebiaeth - y Gweinidog Cyfoeth Naturiol at y Cadeirydd, Eitem 4 PDF 86 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O gofio bod y
Gweinidog wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r arfer o saethu
gwyddau talcen-wen yng Nghymru ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor y dylid cau’r
ddeiseb.
Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 06.01.2016 Gohebiaeth - y Gweinidog Cyfoeth Naturiol at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 102 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu
at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i:
·
groesawu ei ymateb;
·
gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor o fanylion pellach yr ymgynghoriad
arfaethedig fel y gall y deisebwyr gyfrannu ato; a
·
cheisio cael sicrwydd y bydd yr ymgynghoriad yn ymgynghoriad cyhoeddus i
sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael y cyfle i gyfrannu.
Cyfarfod: 10/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 1 KB
- 19.10.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y Pwyllgor, Eitem 3 PDF 56 KB
Cofnodion:
Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A:
Fe roddodd gyngor gweithdrefnol i gydweithwyr y deisebydd yn ystod ymweliad
â Chanolfan Dyfi.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo ba gamau fyddai Llywodraeth
Cymru yn eu cymryd os byddai niferoedd Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las yn
cwympo'n is na'r lefel y dylai arwain at gamau o dan y Cytundeb Adar Dŵr
Affrica-Ewrop, y cyfeiriwyd ato gan y deisebwyr.
Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 16.09.2015 Gohebiaeth – gan Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol I’r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 184 KB
Cofnodion:
Datganodd
Joyce Watson y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae hi yn
ymwneud â nifer o grwpiau sydd o blaid y ddeiseb.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
- aros am sylwadau gan y
deisebwyr; a
- chau’r ddeiseb os nad oes
sylwadau’n dod i law yn y 6 wythnos nesaf.
Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 13.04.15 Gohebiaeth - Deisebydd at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 14 KB Gweld fel HTML (3/2) 3 KB
- 13.04.15 Gohebiaeth - Llythyr gan yr Athro Fox at Simon Bilsborough, Llywodraeth Cymru 27.03.2015, Eitem 3 PDF 123 KB Gweld fel HTML (3/3) 13 KB
Cofnodion:
Roedd Joyce
Watson am gofnodi ei bod yn aelod o’r RSPB.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
·
Drosglwyddo
llythyr yr Athro Fox i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ofyn am ei farn ar ei
gynnwys, ac ar y rheswm pam mae’n ymddangos bod Lywodraeth Cymru wedi dangos ei
bod yn erbyn diogelwch statudol i’r aderyn hwn er bod gwladwriaethau eraill
wedi sicrhau hynny;
·
Gofyn iddo
ailystyried safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn.
Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 30.11.2014 Gohebiaeth - Cymdeithas Adara Cymru i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 24 KB Gweld fel HTML (3/2) 10 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Athro Fox, drwy’r
deisebydd, a yw’n gallu rhoi tystiolaeth o achosion o saethu er 2009, yn unol â
chais swyddogion Llywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 25 KB Gweld fel HTML (4/1) 10 KB
- 01.11.2014 Gohebiaeth - Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol I’r Cadeirydd, Eitem 4 PDF 140 KB
Cofnodion:
Ystyriodd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
i ofyn am
sylwadau pellach gan y deisebydd.
Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 04.09.2014 Gohebiaeth - Deisebydd I’r Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 219 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog
Cyfoeth Naturiol ar sylwadau’r deisebydd.
Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/1) 10 KB
- 10.06.2014 Gohebiaeth – Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 5 MB
- 26.06.2014 Gohebiaeth – Cymdeithas Adareg Cymru at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 14 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am
farn y Gweinidog a'r deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas
Adareg Cymru.
Cyfarfod: 29/04/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd i ofyn am ei farn am y ddeiseb.