Cyfarfodydd

Cynllunio ac Ariannu Trafnidiaeth

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Cynllunio ac Ariannu Trafnidiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 15/10/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Nodyn cywiro gan Yr Adran Drafnidiaeth mewn perthynas â chyfarfod y Pwyllgor ar 17 Medi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 07/10/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Llythyron dilynol i'r sesiwn graffu ar seilwaith rheilffyrdd ar 17 Medi 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1.1 Nodwyd y papurau gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 17/09/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn ddiweddaru gyda'r Adran Drafnidiaeth

Colin Poole, Rheolwr Strategaeth Rheilffyrdd Rhanbarthol, Yr Adran Drafnidiaeth

Tom Oscroft, Cynghorydd Polisi, Is-adran Masnach Morol a Seilwaith, Yr Adran Drafnidiaeth

Stephen Fidler, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Bysiau a Thacsis, Yr Adran Drafnidiaeth

Dogfennau ategol:

  • Briff Ymchwil
  • EBC(4)-20-15 (p.1) Yr Adran Drafnidiaeth (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Colin Poole, Tom Oscroft a Stephen Fidler.

2.2 Datganodd Dafydd Elis-Thomas AC fod ganddo gerdyn teithio rhatach Llywodraeth Cymru a ddyroddir iddo gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.


Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Cynllunio ac Ariannu Trafnidiaeth (11.00-12.00)

 

Tystion:

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd y Gweinidog gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth.

 

5.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i:

 

- Rannu argymhellion y Grŵp Cynghori ar Fysiau;

- Ystyried a ddylid cynnwys y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn y Grŵp Cynghori ar Fysiau;

- Darparu nodyn ar broses gymeradwyo Llywodraeth Cymru o ran y penderfyniad ynghylch tocynnau rhatach, a sut y darparwyd cyngor i’r Gweinidog;

- Darparu nodyn ar sut y caiff amcanestyniadau demograffig Cymru eu hystyried wrth bennu lefelau ariannu teithio rhatach dros y tair blynedd nesaf, o gofio’r gostyngiadau yn y cyllid sydd ar gael ym mhob blwyddyn o’r cytundeb;

- Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i ddatblygu tocynnau teithio rhatach i bobl ifanc;

- Darparu nodyn ar y dull o ariannu’r gwaith o drydaneiddio rheilffyrdd yn ne Cymru, a nodwyd yn achos busnes amlinellol terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer trydaneiddio yn y Cymoedd, gan gynnwys adran 6 o Achos Busnes Amlinellol dyddiedig Mai 2012, ac os yn bosibl, gan gynnwys y ffigurau a adolygwyd o’r achos busnes;

- Darparu nodyn ar y trafodaethau a gafwyd ynghylch trydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, a materion trafnidiaeth ehangach sy’n gysylltiedig â hynny;

- Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith deuoli i gysylltu prif linell rheilffordd Gogledd Cymru â Lerpwl a Manceinion.