Cyfarfodydd
Cynnig i gymeradwyo argymhelliad y Prif Weinidog i Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol
NDM6025 Carwyn Jones
(Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â'r
argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Mick Antoniw AC yn Gwnsler
Cyffredinol.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 14.55
NDM6025 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 9.1, yn cytuno â'r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi
benodi Mick Antoniw AC yn Gwnsler Cyffredinol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 08/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1.)
Cynnig i gymeradwyo argymhelliad y Prif Weinidog i Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol
NDM4726 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ,yn unol a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno a’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Theodore Huckle fel Cwnsler Cyffredinol.
Penderfyniad:
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.