Cyfarfodydd

P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb y ffaith bod cyllid yn cael ei gytuno i adeiladu pont newydd ar y cyfle cyntaf, sef amcan y ddeiseb wreiddiol i bob pwrpas.

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd; a

·         gofyn am wybodaeth bellach gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar oblygiadau’r trefniadau cyllideb newydd.

 


Cyfarfod: 15/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i holi am farn y Gweinidog am ohebiaeth y deisebydd.

 

 


Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am ei sylwadau ar farn y deisebwyr.

 


Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog, ac yn absenoldeb ymateb gan y deisebwyr, cytunodd i chwilio am gyswllt arall yn Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd i geisio ail-gysylltu.

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog, yng ngoleuni ei datganiad yn ddiweddar, beth yw'r amserlen ar gyfer yr astudiaeth; a

·         gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt unrhyw ymateb i ddatganiad y Gweinidog.

 


Cyfarfod: 15/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i:

Ysgrifennu at ddeisebwyr, yn eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn cael ei gynnal yn hydref 2013; a

Chadw’r ddeiseb ar agor hyd nes bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw’n hysbys.

 

 


Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-315 Deiseb i Gael Croesfan Newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb hon a chytunodd i:

Wneud cais am amserlen ddangosol ar gyfer y gwaith a grybwyllwyd yng ngohebiaeth y Gweinidog; a

Gwneud cais bod y Gweinidog yn ymrwymo’n bendant i ymweld â’r groesfan bresennol.

 


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

 

Camau i’w cymryd

·         Cytunodd y Pwyllgor i ddisgwyl i’r Adroddiad Datblygu Opsiynau gael ei gyhoeddi.