Cyfarfodydd

P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y deisebwyr yn diolch iddynt am gyflwyno'r ddeiseb a chau'r ddeiseb.

 


Cyfarfod: 05/02/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Academi Heddwch Cymru

NDM5420 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar sefydlu Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2013.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Deisebau

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

 

NDM5420 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar sefydlu Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2013.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 21/01/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-03-262 Academi Heddwch Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau ymateb y Prif Weinidog i adroddiad y Pwyllgor ar Academi Heddwch Cymru.

 

Cynhelir dadl ar yr adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Chwefror 2014.

 


Cyfarfod: 24/09/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute: Adroddiad drafft

Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr adroddiad drafft.

 

 

 

             


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 P-03-262 Academi Heddwch Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad yn crynhoi canfyddiadau'r Pwyllgor drwy gydol y gwaith o ystyried y ddeiseb.

 


Cyfarfod: 24/01/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-262 Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i:

Anfon y ddeiseb a’r wybodaeth a gasglwyd hyd yma at y grŵp trawsbleidiol ar hawliau dynol, a gofyn am i’r broses o lunio cysyniad ar gyfer sefydlu corff o’r fath gael ei rhoi ar agendâu’r grŵp yn y dyfodol;

Anfon yr ymatebion i’r ymgynghoriad at y deisebwyr fel y gallant lunio cysyniad ar yr un pryd, ac awgrymu eu bod yn lobïo Aelodau unigol i gynnal dadl sy’n cael ei harwain gan Aelod ar y pwnc hwn yn y Cynulliad.

 


Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-262 Academi Heddwch Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi galwad am dystiolaeth ar y mater hwn.


Cyfarfod: 12/07/2011 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-03-262 Academi Heddwch Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon

 

Camau i’w cymryd

·         Y Clerc i ganfod a allai’r Llywydd gomisiynu gwaith ymchwil ar rôl, swyddogaeth a chwmpas posibl sefydliad o’r fath.

·         Ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn a allant gomisiynu gwaith ymchwil ar rôl, swyddogaeth a chwmpas sefydliad o’r fath.