Cyfarfodydd
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 23/05/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 28 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 26.04.17 Gohebiaeth – gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 162 KB
- 28.04.17 Gohebiaeth – Arweinydd Cyngor Sir Caerdydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 104 KB
- 17.05.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/4) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith wedi
cadarnhau na fydd Llywodraeth Cymru yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r broses
y tu ôl i'r gwaith o ail-ddatblygu'r Gyfnewidfa Lo.
Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 28 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 23.01.17 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y tîm clercio (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 29 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:
- Anfon
cais y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith a
gofyn iddo a yw’n barod i ystyried galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau’n
ymwneud â datblygu’r Gyfnewidfa Lo; ac
- ysgrifennu
at Arweinydd Cyngor Caerdydd i ofyn iddo ymateb i'r sylwadau a gafwyd ynglŷn
â chywirdeb ei ohebiaeth â'r Pwyllgor.
Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 18 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 22.09.16 Correspondence - Leader of the City of Cardiff Council to the Chair (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 218 KB
- 20.10.16 Gohebiaeth – gan y deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 1006 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am
ganlyniad y Ceisiadau sydd gyda Cadw ar hyn o bryd a chynllun cadwraeth y
datblygwr, a barn y deisebydd ar ôl hynny, cyn penderfynu a ddylid cymryd
unrhyw gamau pellach.
Cyfarfod: 11/10/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 18 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 28.08.16 Gohebiaeth – gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 81 KB
- 22.09.16 Correspondence - Leader of the City of Cardiff Council to the Chair (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 218 KB
Cofnodion:
Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunwyd i aros am ymateb y deisebydd cyn
trafod y ddeiseb ymhellach.
Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)
4 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 18 KB Gweld fel HTML (4/1) 11 KB
- 24.04.2016 Gohebiaeth - Deisebydd at y tîm clercio, Eitem 4 PDF 14 KB Gweld fel HTML (4/2) 4 KB
- 20.04.2016 - Hansard Tŷ’r Cyffredin, Eitem 4 PDF 344 KB
Cofnodion:
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am
y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith a hefyd gan Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd.
Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 19.01.2016 Gohebiaeth – Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 156 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i
gael sylwadau'r deisebydd am lythyr y Gweinidog cyn trafod y ddeiseb eto.
Cyfarfod: 24/11/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 16.11.2015 Gohebiaeth - Achub y Gyfnewidfa Lo i’r Tîm Clercio, Eitem 3 PDF 53 KB Gweld fel HTML (3/2) 21 KB
- 16.11.2015 Gohebiaeth - Deisebydd i’r tîm clercio, Eitem 3 PDF 25 KB Gweld fel HTML (3/3) 5 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Achub y Gyfnewidfa
Lo a’r deisebydd a chytunwyd i:
·
ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gwyddoniaeth gyda’r
sylwadau ychwanegol a gofyn iddi am y wybodaeth ddiweddaraf o ran ei
dealltwriaeth bresennol o’r sefyllfa ac a yw’n credu bod Cyngor Sir Caerdydd yn
defnyddio’i bwerau mewn ffordd briodol; ac wrth wneud hynny
·
anfon copi o’r llythyr at Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros
Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a Stephen Doughty AS, gyda chais eu bod
yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar eu gwybodaeth am y sefyllfa
ddiweddaraf.
Cyfarfod: 06/10/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 14.08.2015 Gohebiaeth – gan Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i'r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 16 MB
- 18.08.2015 Gohebiaeth – Achub y Gyfnewidfa Lo at Bethan Jenkins AC (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 16 KB Gweld fel HTML (3/3) 5 KB
- 07.09.2015 Gohebiaeth – gan Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i'r Cadeirydd, Eitem 3 PDF 175 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am
sylwadau gan y deisebydd cyn ystyried camau pellach.
Cyfarfod: 14/07/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 4 PDF 17 KB Gweld fel HTML (4/1) 11 KB
- 30.06.2015 Gohebiaeth – gan Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i'r Cadeirydd, Eitem 4 PDF 138 KB
- 05.07.2015 Gohebiaeth – gan y deisebydd i'r tîm clercio (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 15 KB Gweld fel HTML (4/3) 4 KB
Cofnodion:
Trafododd yr Aelodau eu hymweliad â'r Gyfnewidfa Lo bythefnos yn gynharach
a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog am ei barn ar sylwadau Mr Avent ac a oes
unrhyw ddatblygiadau eraill i'w nodi.
Cyfarfod: 12/05/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 17 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 30.04.2015 Gohebiaeth - Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 102 KB
- 22.04.15 Gohebiaeth - Y Cyng Phill Bale - Arweinydd Cyngor Caerdydd at y Cadeirydd, Eitem 3 PDF 53 KB
- 05.05.15 Gohebiaeth - Deisebydd at y Cadeirydd , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/4)
- Gohebiaeth - Gwybodaeth gefndir gan y Deisebydd, Eitem 3 PDF 72 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
·
Ysgrifennu
at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn iddi:
o
ganiatáu
i’r Pwyllgor weld canlyniadau’r astudiaeth ddichonoldeb gychwynnol cyn gynted
ag y byddant ar gael; ac
o
am ragor o
wybodaeth am y broses o ddewis y contractwyr a ddefnyddiwyd i gynnal yr
astudiaeth ddichonoldeb, ac yn benodol, pam nad contractwyr CADW a
ddefnyddiwyd;
·
am gael
ymweld â’r tu allan i’r Adeilad, gyda’r deisebydd, fel y gall yr Aelodau gael
dealltwriaeth well o gyflwr yr Adeilad.
Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 5 PDF 27 KB Gweld fel HTML (5/1) 11 KB
- 23.01.2015 Gohebiaeth – Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at y Cadeirydd, Eitem 5 PDF 144 KB
- 12.02.2015 Gohebiaeth - Deisebydd at y tîm clercio, Eitem 5 PDF 26 KB Gweld fel HTML (5/3) 7 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
·
Ysgrifennu
at Gyngor Sir Caerdydd eto i gael gwybod beth yw’r sefyllfa ddiweddaraf; ac
·
Gofyn i’r
Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y datblygiadau.
Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 2 PDF 27 KB Gweld fel HTML (2/1) 11 KB
- 26.09.2014 Gohebiaeth - Adran y Cyfreithiwr y Trysorlys I’r Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 2 PDF 128 KB
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
·
arweinydd
Cyngor Caerdydd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa a gofyn am
ragor o wybodaeth am y diddymiad os yw ar gael, er mwyn caniatáu i’r Pwyllgor
drefnu ymweliad â’r adeilad;
·
y Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gofyn beth yw rôl Llywodraeth
Cymru yng ngoleuni diddymiad y cwmni daliannol; a
·
Stephen
Doughty AS, gan anfon copi at Vaughan Gething AC, i dynnu ei sylw at y ddeiseb
a gofyn am y diweddaraf am ei ymgyrch.
Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
- Geisio cael cadarnhad o statws
perchnogaeth yr adeilad;
- aros am sylwadau pellach gan y
prif ddeisebydd; a
- pharhau â’r bwriad i ymweld
â’r adeilad.
Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo
Dogfennau ategol:
- Tudalen Flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 07.05.14 Gohebiaeth - Arweinydd Cyngor Caerdydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 4 MB
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
•
y byddai croeso
i'r Deisebydd ymweld â safle'r Gyfnewidfa Lo; a
•
chael adroddiad Cabinet Ionawr 2014 gan y Cyngor a'i rannu ag Aelodau cyn
yr ymweliad.
Cyfarfod: 13/05/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 6 PDF 27 KB Gweld fel HTML (6/1) 11 KB
- 18.04.2014 Gohebiaeth – Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 408 KB
- 14.03.2014 Gohebiaeth – gan y Deisebwr at y Pwyllgor (o’r Gymdeithas Fictoraidd), Eitem 6 PDF 186 KB
- 05.05.2014 Gohebiaeth - Deisebydd at y Cadeirydd (Saesneg yn unig), Eitem 6 PDF 307 KB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am
ymateb brys gan Gyngor Dinas Caerdydd i gais y Pwyllgor am wybodaeth ac am
ymweliad â’r adeilad.
Cyfarfod: 11/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 P-04-539 Achub Cyfnewidfa Glo Caerdydd
Dogfennau ategol:
- Tudalen flaen, Eitem 3 PDF 27 KB Gweld fel HTML (3/1) 11 KB
- 05.03.2014 Gohebiaeth – Deisebydd at y Pwyllgor (Saesneg yn unig), Eitem 3 PDF 3 MB
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at:
- y Gweinidog
Diwylliant a Chwaraeon, yn gofyn ei farn ac am eglurhad ynghylch y defnydd
o bwerau o dan adran 78 a nododd y deisebydd;
- Cadw, yn
gofyn am eglurhad ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb o safbwynt
Cadw, gan gynnwys sut mae'n sicrhau y glynir at y mesurau i amddiffyn
adeiladau o'r math hwn;
- Prif
Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, yn gofyn:
Ø eu barn am y
materion a godwyd gan y ddeiseb;
Ø am ragor o wybodaeth
ynghylch eu cynlluniau ar gyfer adeilad y Gyfnewidfa Glo a'r rhesymau tu ôl i'r
penderfyniad; ac
Ø a all y Pwyllgor
ymweld â'r adeilad.